30.9.04

Tywydd

Dwi ddim yn deall lot am y pethe gwyddonol 'ma - pynciau fel yr amgylchedd, twymo byd-eang (ydy hynny'r term cywir?) ac ati. Ond mae tywydd y byd eleni wedi bod yn ddychrynllyd.

29.9.04

Ble maen nhw?

Hanner ffordd trwy wythnos gynta'r tymor, a dwi bron heb weld myfyrwyr newydd o gwmpas y coleg. Fe drefnodd Undeb y Myfs ymweliad i'r tafarn Nos Lun, gyda drincs am ddim i'r stiwdants blwyddyn gynta. Fe weles i'r trefnydd tra ro'n i'n cloi'r llyfrgell - a doedd neb wedi troi lân. Roedd vouchers am y drincs yn dal gyda fe; yn anffodus ro'n i'n dal i deimlo'n sâl gyda'r annwyd cas 'ma, a do'n i ddim yn teimlo fel mynd am beint. Yn y diwedd fe ffoniodd i'w fêts i ddod i iwsio'r vouchers. Ond rwy'n dal mewn sioc am y syniad o stiwdants yn gwrthod drincs am ddim.
Alla' i ddim cofio wythnos gynta' blwyddyn academaidd mor dawel ac eleni. Dwi ddim yn lico hyn - mae'n rhy dawel. Efallai maen nhw'n planio rhywbeth.
Dwi ddim yn rhydd 'to o'r hen annwyd cas, a nawr mae'r wraig wedi ddal e, ac yn rhoi'r bai arna' i. 'Se 'da fi unrhyw ddewis yn y mater.

27.9.04

Blincin firewalls

Ar ôl cyrraedd y gwaith yn hwyr (gan fy mod i'n gweithio'n hwyr heddiw), dyma fi'n ffindo'r coleg yn dawel iawn - er bod hi'n ddechrau'r tymor newydd. Mae'r trydan wedi mynd 'to (circuit bord wedi gor-dwymo), 'sdim cyfrifiaduron - ond o leia' mae'r golau yn gweithio (hyd yn hyn). Hefyd mae'r system ffôns wedi torri lawr am sbel.
Dechrau ffantastig i'r tymor.
Wythnos diwetha' doedd rhan o system y llyfrgell ddim yn gweithio chwaith - ar ôl ymchwilio, gofyn, ac erfyn, dyma rywun yng Nghanolfan Cyfrifiaduron y Brifysgol yn cyfadde' iddo gau un o ports ar firewall. Mae hynny wedi dechrau bod yn broblem gyson - mae un firewall yma yn y coleg, ac un arall ar ein system llyfrgell yn y Brifysgol. I weithio mae'r system eisiau ports arbennig fod ar agor - ond byth a beunydd mae pobl IT yn penderfynu cau ports heb reswm. A phob amser mae'n cymeryd peth amser cyn iddyn nhw gyfaddef be' maen nhw wedi 'neud.

24.9.04

Trist iawn

Newydd ffeindio mâs bod Maes-e.com wedi bennu (am y tro). Mae hynny yn drueni mawr, ac mae Nic Dafis yn haeddu pob clod am ei waith. Mae wedi bod yn fforwm da i bractisio fy Nghymraeg - rwy'n siwr fod lot o bobl yn gwerthfawrogi gwaith Nic.
Heddiw rwy gartre' o'r gwaith, gan fod fy annwyd wedi troi'n waeth ac rwy'n pesychu non-stop. Rwy wedi llyncu boteli o Vitamin-C, Veno's Cough Mixture a Beecham's Powders. Dim lot o iws.
Rwy wedi dechrau tyfu'r farf unwaith eto. Fe siafies i ffwrdd 3 blynedd yn ôl, ac ers hynny rwy wedi sylweddoli fod y farf yn fy siwtio i. Hynny yw, dwi ddim yn edrych cynddrwg gyda'r farf ac ydw i hebddi hi. Rwy wedi bod yn meddwl am y peth ers amser, ond mae'r holiday snaps mwy diweddar wedi fy mherswadio bod rhaid wneud. Ond mae'n cosi.

22.9.04

Diwrnod hir

Mae heddiw wedi bod yn ddiwrnod hir. Mae'r coleg wedi rhoi'r gwres ymlaen ar full-blast. Mae'r awyr yn fy sychu a nawr mae annwyd gen i. Damo.

21.9.04

Yn ôl i Lundain

Fe ddychweles i Lundain ddydd Sul ar ôl wythnos o wyliau yn Israel. Roedd yn wythnos gwych - awyr iach, tywydd braf heulog a dwym, bwyd da.
Roedd y taith o Lundain yn straen, gan fod y wraig yn ofni hedfan. Roedd Via, hen ffrind ysgol fy ngwraig, yn disgwyl amdanon ni yn y maes awyr, i roi lifft i ni i'r gwesty. Caredig iawn, yn enwedig cysidro'r amser i ni gyrraedd yno (11:30 p.m.). Erbyn hanner nos roedden ni wedi cyrraedd y gwesty yn Heol HaYarkon.
Ar y newyddion ar y teledu bore wedyn roedd cadarnhad bod Madonna yn dod ar ymweliad i Israel hefyd. 'Naethon ni ddim bympo mewn iddi - ond dwi ddim yn siomedig iawn: dwi erioed wedi bod yn ffan.
Fe gwrddon ni a Michaela, cyfnither fy ngwraig, a'i gwr Sergiu a cherdded o gwmpas Tel Aviv ac i Ganolfan Dizengoff. Yn y pnawn fe gawson ni amser hyfryd ar y traeth. Ac fe fwyton ni hwmws a pita mewn caffi ar y traeth, yn edrych dros y Mor Canoldir.
Gan fod fy ngwraig yn bensaeres, gyda diddordeb mewn pensaerniaeth y 1920au a 1930au, fe dreulion ni lot o amser yn crwydro strydoedd Tel Aviv - sy'n llawn adeiladau braf o'r cyfnod hwn.
Posted by Hello
Ar ddydd Gwener fe aethon ni i Jerwsalem i aros mewn gwesty am 4 diwrnod. Fe wnaethon ni gerdded strydoedd Jeriwsalem am oriau, yn tynnu lluniau o adeiladau braf.
Ddydd Iau roedd y Blwyddyn Newydd Iddewig, ac fe aethon ni at y Kotel - hynny yw, y wal orllewinol o'r Teml yn Jeriwsalem.

Y Kotel Posted by Hello

Ddydd Gwener, fe aethon ni at Michaela a Sergiu yn Holon, ger Tel Aviv, i gael cinio.
Ddydd Sadwrn rhagor o gerdded a thynnu lluniau. Yn y nos, cwrdd a hen fos fy ngwraig a chael swper ym mwyty y YMCA yn Jeriwsalem. Adeilad hardd iawn o'r 30au, gan yr un pensaer a wnaeth yr Empire State Building yn Efrog Newydd.
A chodi'n gynnar iawn ddydd Sul i deithio i'r maes awyr, a theimlo'n drist bod y gwyliau mor fyr.
Yn Llundain roedden ni'n teimlo'n oer iawn, a gweld y cymylau llwyd diflas yn ein croesawu ni yn ôl.

10.9.04

Dwy erthygl

Rwy wedi darllen dwy erthygl y bore 'ma am y "Rhyfel yn erbyn terfysgaeth". Dwy erthygl wahanol iawn i'w gilydd. Yr un cynta' yn y Guardian, gan Naomi Klein, ar "y Likud doctrine" - lle mae hi'n sôn am yr "ardent Likudniks ensconced in the White House". Y llall yn y Jerusalem Post, gan Caroline Glick, yn delio â'r un pwnc dadl ond o safbwynt gwahanol iawn.
Rwy'n tueddu i ochri gyda Caroline Glick yn y dadl, ac mae'n trueni bod cymaint o bobl (fel Klein) yn gwrthod gweld y bygythiad.
Dyw hi ddim yn bwysig be' sy'n digwydd yn y byd - 9/11, hunan-laddwyr yn Israel, bomiau yn Indonesia, llofruddio plant yn Rwsia - mae rhai bobl yn cario ymlaen i feio'r dioddefwyr yn lle'r terfysgwyr. Mae empathy yn gallu bod yn ddefnyddiol fel ffordd i ddeall sut a pham mae pobl yn gweithredu fel y maen nhw. Ond rhaid hefyd fod yn ofalus, ac osgoi atebion sy'n ffitio mewn i'n ffordd ni o weld y byd gan anwybyddu beth mae'r terfysgwyr Islamaidd yn dweud eu hunain.
Mae'n ddiddorol gweld sut mae rhai yn diystyru y dimensiwn Islamaidd ac yn troi at pethau cyfarwydd fel "economi", "hiliaeth y gorllewin", "cyfalafiaeth", "imperialaeth", "rheolaeth ar adnoddau" ac ati i esbonio be' sy'n digwydd yn y byd. Efallai rhan o'r problem yw, yn y Gorllewin post-Cristnogol, rydyn ni'n meddwl am grefydd fel rhyw fath o hobi neu rywbeth cysurus i'r gwan: "Dechrau Canu, Dechrau Canmol", "Songs of Praise", Aled Jones. Yn lle hyn, fe ddylen ni astudio mwy am y ffordd mae Islam yn gweld y byd , a beth yw amcanion yr Islamists. Mae MEMRI yn wefan dda i ddarllen eitemau o'r wasg Arabaidd mewn cyfieithiad. Dyma un engraifft, sy'n dod o bapur newydd Arabaidd yn Llundain Al-Sharq Al-Awsat. Mae'r papur yn reportio ar gynghadledd mudiad Islamaidd eithafol yn Llundain i ddathlu 9/11:
Bakri said that the convention will also feature a lecture about the Islamic religious roots of "slaughtering the infidels," that is, beheading foreigners in Iraq and Saudi Arabia, and that there will be films by Al-Qa'ida, the Tawhid and Jihad organization, and the Brigades of the Two Holy Places in the Arabian Peninsula, and that there will also be a film on the most recent operations in Chechnya. He added that one of the speeches, by Abu Mus'ab Al-Zarqawi, known to be Al-Qa'ida's military commander in Iraq, will be translated.

9.9.04

Coedcoch yn ôl

Mae John Redwood yn ôl yn y Shadow Cabinet - "deregulation secretary". Beth yw hyn, dwedwch? Neb yn gwybod, tebyg. Ond esgus da i ddangos y clip enwog o JR yn gwneud 'stumiau tra'n esgus canu'r anthem genedlaethol. Clasur.
Ac yn Llafur mae Alan Milburn wedi dod 'nôl. Eisiau treulio llai o amser gyda'i deulu, sbo. Wedi cael llond bol ohonyn nhw.

7.9.04

Golwg

Ar ôl brolio eu bod nhw'n argraffu y faled ddigri fuddugol o 'Steddfod Casnewydd, dyma siom wythnos 'ma yn Golwg. Maen nhw wedi argraffu'r faled gyda lot fawr o fwlchau. Pam? Fe ddylen nhw naill ai argraffu'r faled yn gyfangwbl neu beidio argraffu hi. Mae Golwg yn anobeithiol ta p'un i. ------- llwyth o ----- cachlyd. Rwy'n mynd i ------- peidio ------- adnewyddu fy ------- tanysgrifiad. (Cofiwch fod ff yn cowntio fel un lythyren).

6.9.04

Fel lot o bobl eraill, roeddwn i'n gaeth i'r teledu ddiwedd wythnos diwetha. Gwylio'r erchylltra yn Rwsia yn digwydd o flaen fy llygaid. Teimlo'n drist dros y rhai sy'n diodde yno ond eto fel rhyw fath o voyeur. Y papurau hefyd yn llawn lluniau a straeon, ac weithiau yn croesi'r llinell rhwng rhoi gwybodaeth a tresmasu ar deimladau personol pobl mewn poen.
Ddydd Sadwrn mynd i Gaergrawnt, i weld ffrindau'r wraig. Dechrau gwylltio gyda Domenique, sy'n dweud bod rhaid i ni ddeall sut mae dioddefaint y Chechens yn eu gwthio nhw i droi at derfysgaeth. Fe wnes i lwyddo i dewi, a newid y pwnc. Doeddwn i ddim yn teimlo eisiau gwneud dadl.
Ar y Sul mynd ar daith cerdded yn yr East End, ac ymweld a synagog Bevis Marks - yr un hynaf ym Mhrydain, adeiladwyd yn 1701. Adeilad prydferth - syml a chlasurol, gydag urddas tawel.

3.9.04

Pwy fwytodd Bambi?


Llun oddi wrth wefan Urban Legends yn yr UDA. Posted by Hello

Da Vinci Code

Fe weles i fy hen fós (MJW) heddiw, a wedodd e wrtha' i rywbeth diddorol am y Da Vinci Code. Fe ofynnodd i mi os 'wy wedi ei ddarllen, ac fe wedes i fod yn fy marn i roedd y llyfr yn rybish. Cymeriadau'n anghredadwy, plot yn dibynnu ar lot o gyd-ddigwyddiadau chwerthinllyd ac mae'r ysgrifennu'n wael. Fe wedodd wrtha' i bod ei lyfr e (MJW) ar gymdeithas Opus Dei wedi cael ei ailargraffu yn America achos poblogrwydd y Da Vinci Code. A diolch i nofel Dan Brown mae e wedi gwneud swm eitha' teidi.

2.9.04

Medúlla

Rwy wedi bod yn ffan mawr o Björk ers amser, a neithiwr, o'r diwedd, 'nes i wrando ar Medúlla - ei albwm newydd. Fe brynes i gopi yn fformat DVD Audio, sy'n cynnwys rhaglen ddogfen ar y proses o recordio a chynhyrchu'r albwm. Mae'r albwm yn defnyddio lleisiau yn lle offerynau - lleisiau wedi recordio a phrosesu mewn gwahanol ffyrdd. Rhai o'r traciau yn gweithio'n dda iawn, rhai yn ardderchog, ond eto rhai (i fod yn hollol onest) yn mynd ar fy nerfau.
Rhai o'r traciau yn swnio'n dywyll iawn hefyd. Mae'r clawr yn edrych yn grêt ac yn adlewyrchu'r cynnwys rhywsut. Hyd yn hyn, fy ffefrynnau ar yr albwm yw: "Pleasure is all mine", "Where is the line?", "Vökuró" ac "Oceania". Mae'r rhaglen ddogfen sy' ar y DVD yn ddiddorol - cyfweliadau gyda rhai o'r bobl sy' wedi cyfrannu at yr albwm. Björk ei hun yn cael ei chyfweld yn Islandeg, gyda is-deitlau Saesneg.

1.9.04


Pythefnos yn ôl fe weles i'r arlunydd David Hockney yn sefyll yn ffenest y Royal College of Art yn Kensington. Rown i'n eistedd ar y bws a digwydd weld e wrth basio. Fe wedes i wrth ffrind i mi bo' fi wedi gweld DH, gan feddwl taw y dyn ei hun yn y cnawd oedd yno. Ond y diwrnod wedyn, dyna oedd e 'to - yn sefyll yn union yr un lle. A'r diwrnod wedyn, a'r diwrnod wedyn... Damia, model yw e. Realistig iawn, sy' wedi fy nhwyllo yn llwyr. Posted by Hello

Ffoniodd fy wraig ei modryb sy'n byw yn Beer Shefa yn Israel, lle roedd 'na ddau hunan-laddwr ddoe gyda 16 o bobl wedi cael eu lladd. Mae ei modryb Chica yn iawn, er bod hi'n aml yn teithio ar y bysus rhif 6 a 12 'na.
Bachgen 4 oed oedd un o'r rhai a fuodd farw a llawer o blant eraill wedi cael eu anafu yn yr ymosodiad, sy' wedi digwydd ar y diwrnod ola' o wyliau'r haf.
Posted by Hello