28.11.05

David Duke yn dilyn George Galloway yn Syria

Mae pobl Syria yn ddiweddar wedi cael y fraint amheus o groesawu dau eithafwr - GG o'r Chwith eithafol a DD o'r Dde eithafol (o'r KKK cynt, nawr "common or garden White supremacist"), gyda'r ddau ohonynt yn ymddangos yn fyw ar deledu Syria.

Os oes ganddoch chi Windows Media Player:
I weld y fideo o Duke, cliciwch yma.



25.11.05

Cyngerdd Y Blwyddyn

Neithiwr i Brixton Academy i weld Bob Dylan. Noson wych. Cliciwch i weld y set-list. Fe gawson ni safle da - yn sefyll yn eitha' agos at y llwyfan. Ar ôl dod 'nôl ar y llwyfan i chwarae encore, dyma BD a'r band yn chwarae pennill o "London Calling" gan Y Clash.

11.11.05

Ydy Paris yn llosgi?

Gan fy mod i wedi bod ati yn dysgu Ffrangeg yn ddiweddar, rwy'n edrych o bryd i'w gilydd ar raglennau'r sianel Ffrangeg ar Sky (TV5). Pythefnos yn ôl fe ges fy synnu i weld bod rhai o banlieues Paris yn mynd yn fflamiau, gyda grwpiau o lanciau yn llosgi ceir ac adeiladau. Ar y pryd doedd dim sôn am hyn ar y BBC neu yn y papurau Prydeinig. Roedd rhaid aros rhai dyddiau cyn gweld storiau am y terfysgoedd yn y wasg.

Ac ers hynny mae'r papurau a'r BBC wedi bod yn ofalus iawn yn eu disgrifiadau o'r terfysgwyr. Er bod y "youths" wedi bod yn gweiddi "Allahu Akbar" (Mawr yw Duw), mae'r cyfryngis yn gwneud eu gorau glas i osgoi crybwyll y gair "Moslem".

Tra bod papurau fel y Guardian, Independent, New York Times a Washington Post wedi ymuno a'r cyfryngis eraill yn disgrifio'r llanast yn Ffrainc fel arwydd o problemau economaidd a chymdeithasol, mae Robert Spencer wedi chwilio'r rhesymau go iawn pam mae Moslemiaid eisiau chwalu cymdeithas seciwlar Ffrainc.

Ac mae Mark Steyn yn dod i gasgliadau tebyg, ac yn annog Ewrop i ddihuno i'r ffaith fod rhyfel cartref ar ei dwylo.