21.12.05

Ail-edrych

Dros 5 mlynedd yn ôl, fe gafodd fideo o fachgen bach, Muhamed al Durah, a'i dad ei fflachio o gwmpas y byd fel esiampl o filwyr Israel yn llofruddio plentyn. Pwy all anghofio'r lluniau dychrynllyd o funudau olaf y plentyn? Mae'r fideo wedi cael effaith anferth, yn cyfrannu at ddatblygiad yr "Intifada". Yn ôl neb llai nag Osama bin Laden, “drwy ladd y bachgen hwn mae'r Israeliaid wedi lladd bob blentyn yn y byd.” I rai yn y Gorllewin effaith y lluniau oedd i gymharu'r Israeliaid gyda'r Natsiaid.

Ond yn ddiweddar mae pobl wedi bod yn ail-edrych ar y fideo yn fwy fanwl - ac mae lot o gwestiynau yn codi. Dyma fideo sy'n olrhain y digwyddiadau hyn, ac sy'n holi'r dyn camera a saethodd y lluniau.

Lluniau

Dyma luniau o Eilat - fi sy'n eistedd yn y jeep (Polaris Ranger 4x4), ac sy' ar y chwith (gyda fy ffrind Natan) ar y bad.



20.12.05

Yn ôl i Lundain (eto)

Wedi treulio wythnos yn Israel (yn Eilat, ar Y Mor Coch). Gwyliau ffantastig - haul yn disgleirio bob dydd (gyda tymharedd o 28°C), nofio yn y mor ac ym mhwll nofio'r gwesty, herio "mini-jeep" 4-wheel drive i fynd am dro yn y mynyddoedd o gwmpas Eilat (lle mae'r golygfeydd yn arall-fydol), ac yn gwneud tripiau i'r anialwch ac i warchodfeydd natur. Gwneud tripiau cwch ac yn gweld dolffiniaid yn agos iawn. Rwy'n gobeithio postio lluniau cyn bo hir.

Mae hyn wedi codi fy ysbryd i fod yn barod i wynebu'r gaeaf (i ryw raddau).

8.12.05

Gwreiddiau Terroristiaeth

Mae'r Awdurdod Palesteinaidd yn dal i "gondemnio" ymosodiadau gan bomwyr hunan-laddwyr - hynny yw, er mwyn y media yn y Gorllewin. Ond yn sinicaidd maen nhw'n cefnogi ac yn gwobrwyo llofruddiaeth ac wedi creu "cwlt marwolaeth". Golwg ar wreiddiau go iawn terroristiaeth.