29.9.04

Ble maen nhw?

Hanner ffordd trwy wythnos gynta'r tymor, a dwi bron heb weld myfyrwyr newydd o gwmpas y coleg. Fe drefnodd Undeb y Myfs ymweliad i'r tafarn Nos Lun, gyda drincs am ddim i'r stiwdants blwyddyn gynta. Fe weles i'r trefnydd tra ro'n i'n cloi'r llyfrgell - a doedd neb wedi troi lân. Roedd vouchers am y drincs yn dal gyda fe; yn anffodus ro'n i'n dal i deimlo'n sâl gyda'r annwyd cas 'ma, a do'n i ddim yn teimlo fel mynd am beint. Yn y diwedd fe ffoniodd i'w fêts i ddod i iwsio'r vouchers. Ond rwy'n dal mewn sioc am y syniad o stiwdants yn gwrthod drincs am ddim.
Alla' i ddim cofio wythnos gynta' blwyddyn academaidd mor dawel ac eleni. Dwi ddim yn lico hyn - mae'n rhy dawel. Efallai maen nhw'n planio rhywbeth.
Dwi ddim yn rhydd 'to o'r hen annwyd cas, a nawr mae'r wraig wedi ddal e, ac yn rhoi'r bai arna' i. 'Se 'da fi unrhyw ddewis yn y mater.