6.1.06

Ariel Sharon

Mae'n amlwg na fydd Ariel Sharon yn dychwelyd i arwain Israel. Ond yn ôl papur newydd HaAretz, bydd plaid newydd Ariel Sharon, Kadimah, yn ennill y nifer mwyaf o seddi yn yr etholiadau yn Israel. Ac yma mae gwybodaeth fer ar y pleidiau mawr yn Israel.

4.1.06

Oes gafr eto?

Mwy o luniau o Eilat.

Y llun cyntaf wedi tynnu yn yr anialwch tu allan i Eilat, gyda geifr yn bwyta coeden acacia.















A dyma lun o borthladd Aqaba, yn Iorddonen - mae Aqaba drws nesa' i Eilat. Rhwng y ddwy long saif un o'r baneri mwyaf yn y byd: mae'r polyn yn 136 meter (446 troedfedd) o uchder, a'r faner ei hun yn 80 meter wrth 44 meter. Gallwch weld y faner yn gliriach a darllen am arwyddocad y faner yn DEBKAfile.