2.9.04

Medúlla

Rwy wedi bod yn ffan mawr o Björk ers amser, a neithiwr, o'r diwedd, 'nes i wrando ar Medúlla - ei albwm newydd. Fe brynes i gopi yn fformat DVD Audio, sy'n cynnwys rhaglen ddogfen ar y proses o recordio a chynhyrchu'r albwm. Mae'r albwm yn defnyddio lleisiau yn lle offerynau - lleisiau wedi recordio a phrosesu mewn gwahanol ffyrdd. Rhai o'r traciau yn gweithio'n dda iawn, rhai yn ardderchog, ond eto rhai (i fod yn hollol onest) yn mynd ar fy nerfau.
Rhai o'r traciau yn swnio'n dywyll iawn hefyd. Mae'r clawr yn edrych yn grêt ac yn adlewyrchu'r cynnwys rhywsut. Hyd yn hyn, fy ffefrynnau ar yr albwm yw: "Pleasure is all mine", "Where is the line?", "Vökuró" ac "Oceania". Mae'r rhaglen ddogfen sy' ar y DVD yn ddiddorol - cyfweliadau gyda rhai o'r bobl sy' wedi cyfrannu at yr albwm. Björk ei hun yn cael ei chyfweld yn Islandeg, gyda is-deitlau Saesneg.