26.9.05

Tymor newydd

Dyma ni ar ddechrau tymor newydd yn y coleg unwaith eto. Croeso i bawb sy'n dechrau cyrsiau mewn prifysgolion a cholegau, a gobeithio y byddwch chi'n mwynhau!

Wythnos diwetha' fe wnes i dreulio amser gyda hen ffrind i mi oedd yn ymweld o Israel. Cyfle i fwynhau eto ei hiwmor unigryw. Fe gawson ni lot o sbort gyda'n gilydd yn mwynhau atyniadau Llundain. Ac ar ôl wythnos i ffwrdd, dyma fi'n ôl yn y coleg, yn barod i groesawu'r glasfyfyrwyr gydag amynedd a gyda gwên.