27.9.04

Blincin firewalls

Ar ôl cyrraedd y gwaith yn hwyr (gan fy mod i'n gweithio'n hwyr heddiw), dyma fi'n ffindo'r coleg yn dawel iawn - er bod hi'n ddechrau'r tymor newydd. Mae'r trydan wedi mynd 'to (circuit bord wedi gor-dwymo), 'sdim cyfrifiaduron - ond o leia' mae'r golau yn gweithio (hyd yn hyn). Hefyd mae'r system ffôns wedi torri lawr am sbel.
Dechrau ffantastig i'r tymor.
Wythnos diwetha' doedd rhan o system y llyfrgell ddim yn gweithio chwaith - ar ôl ymchwilio, gofyn, ac erfyn, dyma rywun yng Nghanolfan Cyfrifiaduron y Brifysgol yn cyfadde' iddo gau un o ports ar firewall. Mae hynny wedi dechrau bod yn broblem gyson - mae un firewall yma yn y coleg, ac un arall ar ein system llyfrgell yn y Brifysgol. I weithio mae'r system eisiau ports arbennig fod ar agor - ond byth a beunydd mae pobl IT yn penderfynu cau ports heb reswm. A phob amser mae'n cymeryd peth amser cyn iddyn nhw gyfaddef be' maen nhw wedi 'neud.