6.9.04

Fel lot o bobl eraill, roeddwn i'n gaeth i'r teledu ddiwedd wythnos diwetha. Gwylio'r erchylltra yn Rwsia yn digwydd o flaen fy llygaid. Teimlo'n drist dros y rhai sy'n diodde yno ond eto fel rhyw fath o voyeur. Y papurau hefyd yn llawn lluniau a straeon, ac weithiau yn croesi'r llinell rhwng rhoi gwybodaeth a tresmasu ar deimladau personol pobl mewn poen.
Ddydd Sadwrn mynd i Gaergrawnt, i weld ffrindau'r wraig. Dechrau gwylltio gyda Domenique, sy'n dweud bod rhaid i ni ddeall sut mae dioddefaint y Chechens yn eu gwthio nhw i droi at derfysgaeth. Fe wnes i lwyddo i dewi, a newid y pwnc. Doeddwn i ddim yn teimlo eisiau gwneud dadl.
Ar y Sul mynd ar daith cerdded yn yr East End, ac ymweld a synagog Bevis Marks - yr un hynaf ym Mhrydain, adeiladwyd yn 1701. Adeilad prydferth - syml a chlasurol, gydag urddas tawel.