28.2.05

Hen Saesnes gas

Dros y Sul, fe aeth fy ngwraig a minnau ar ymweliad i Greenwich. Roedd yr ymweliad wedi'i trefnu gan Society for Protection of Ancient Buildings i bobl sy'n ymddiddori ym mhensaerniaeth hanesyddol ('ngwraig yw'r un gyda'r diddordeb mawr ym mhensaerniaeth). Wel, roedd y trip yn neis iawn - "Maritime Greenwich", adeiladau hardd o'r 17eg canrif ymlaen, gyda twysydd gwybodus.
Fel rhan o'r trip, roedd ymweliad i dy preifat (adeiladwyd 1717) - roedd yr hen fenyw sy'n perchen y ty yn egsentrig iawn ond hael a chymwynasgar. Roedd 30 ohonon ni yn y grwp, ac roedd yr hen fenyw wedi paratoi cinio neis iawn i ni. Hefyd, fe gawson ni ein croesawu gyda glasied o champagne (hyn i gyd am £7.50!). Roedd popeth yn fendigedig. Smile
Ond yn anffodus, digwyddodd rywbeth annifyr iawn. Roedd 'na hen Saesnes yn eistedd ar bwys fy ngwraig - yn ei chwedegau cynnar, efallai. Fe ddechreuodd hi siarad am ei thy gyda 11 o aceri wrth ymyl Cadair Idris, a pha mor braf yw ei bywyd yno yn Eryri. Fe sylweddolais fod ei wedi cael ei effeithio gan y diod. Yna fe ofynnodd: "Gyda llaw, oes rhywun yma o Gymru?" Medde fi "Oes - fi". Ac yna, dyna hi'n dechrau araith yn erbyn y Cymry: rydyn ni'n ddiog, ddim yn gwerthfawrogi ein tirlun, ddim yn gwneud dim byd nac ymddiddori yn ddim byd ond ein "rotten language", a dim ond y Saeson sy' wedi symud i Gymru yn gwneud unrhywbeth o werth yno, ac ati. Mynd ymlaen ac ymlaen.
Fe ddechreuais i ymateb, ond fe gydiodd fy ngwraig yn fy llaw - "Paid dweud gair, mae hi'n creu embaras iddi hun". Fe wnes i edrych o gwmpas, a sylweddoli bod yr eraill yno yn edrych yn embarasd.
Hen fenyw gas a dwl, wedi gwneud cywilydd iddi hun ar ôl glasied o win. Fe ddyle hi ffwcio ei hun yn ffenest Harrod's. Gobeithio bydd pobl yn gas iddi hithau pan aiff hi'n ôl i Gymru.

25.2.05

"Tywydd mawr"?!!

Ew - be' sy'n bod ar y system trafnidiaeth? Tipyn o eira o gwmpas, ac mae popeth yn siambls. Math rong o eira myn uffern i!

21.2.05

Ffrindiau Ken

Mae Maer Llundain, Ken Livingstone, wedi bod mewn trafferth yn ddiweddar ar ôl ei sylwadau wrth newyddiadurwr o'r Evening Standard. Yn fy marn i, roedd ei sylwadau yn dwp, ansensitif ac yn hurt, ond i ddweud bod nhw'n wrth-semitaidd yn mynd yn rhy bell. Ond mae Ken wedi denu edmygwyr newydd, mae'n debyg. Yn ôl colofn Mandrake yn y Sunday Telegraph ddoe, mae David Irving (yr awdur gwrth-semitaidd) wedi rhoi ei gefnogaeth i Ken. Un arall sy'n cefnogu Ken yw'r cyn-fodel ffasiwn cyfoethog "Lady" Michelle Renouf. Fe gafodd hi ei diarddel o Brifysgol Llundain cwpl o flynyddoedd yn ôl am ei ymgyrchu gwrth-semitaidd. Hi, hefyd, oedd y "mystery blonde" yn mynd i gefnogu David Irving bob dydd yn ystod ei achos llys enwog yn erbyn hanesydd a'i alwodd yn "anti-Semite and racist."

10.2.05

Bolycs i'r Saeson

Dyma efallai y tro cyntaf i mi weld sôn am Gymru ar CNN, ac mae wedi dod â dagrau i'm llygaid!

9.2.05

Yn erbyn y gwynt

Neis oedd gweld hen ffrind ysgol i mi o Gasnewydd (Milton Primary, Hartridge High) ar raglen newyddion y BBC Breakfast ar y teledu y bore 'ma. Mewn erthygl yn y Guardian ddoe, mae Stephen Moss yn beirniadu'r holl ffys ynglyn ag Ellen MacArthur a'i thaith.

8.2.05

Diwedd i'r trais?

Mae'n rhy gynnar i sôn am heddwch, ond efallai mae'n ddiwedd i'r trais am sbel. Gobeithio y daw rhywbeth allan o'r cyfarfod rhwng Ariel Sharon a Mahmoud Abbas yn Sharm El-Shaikh heddiw.

7.2.05

Quirk

Dros y Sul, aethon ni i'r Barbican Centre i gyngerdd y London Symphony Orchestra. Cyntaf ar y rhaglen oedd darn newydd gan Karl Jenkins o'r enw Quirk (gyda Gareth Davies, ffliwt, Neil Percy offerynnau taro, a John Alley, piano). Ardderchog! Hefyd, roedd Symffoni 72 gan Haydn, a Concerto i'r ffidil gan Brahms (unawdydd: Gordan Nikolitch - gwych!).

4.2.05

Chwerthin

2.2.05

Er bod y sefyllfa yn y Dwyrain Canol yn edrych yn fwy obeithiol, mae bias anti-Israel yn y media yn sefyll yn ei unfan. Yr enghraifft diweddara' yw sut roedd y media yn trin marwolaeth merch ysgol 10 mlwydd oed. Ddydd Llun, (31 Ionawr), fe gafodd Nuran Deab ei tharo gan fwled yn ne Gaza, ac fe fu farw yn fuan wedyn.

Fe awgrymodd yr Israeliaid fe allai'r bwled wedi dod oddi wrth Palesteiniaid gerllaw yr ysgol, oedd yn saethu i'r awyr fel dathliad. Fe ddwedodd Reuters 'it did not appear that Israeli soldiers some 600 meters away could have seen into the [school] compound from their position behind high walls.'

Er hynny, roedd llawer o asiantaethau newyddion yn fuan i ailadrodd fersiwn y Palesteiniaid o beth ddigwyddodd, oedd yn cael ei cefnogi gan yr UN hefyd:

Agence France-Presse, o dan y penawd 'Palestinian schoolgirl shot dead by Israeli troops in Gaza,' wedi dyfynnu prif weinidog y Palesteiniaid yn beirniadu'r "trosedd", gyda gwadiad yr Israeliaid wedi claddu ar diwedd yr eitem.

Fe seiliodd yr The Independent ei stori ar gyhuddiad swyddog yr UN, oedd yn cyhuddo milwyr Israel o saethu ar Deab, a disgrifiodd swyddogion Israel fel 'plainly embarrassed.'

Fe dyfynnodd Knight Ridder-Tribune Ahmed Qurei yn dweud bod y saethu yn 'war crime' Israelaidd, a swyddog yr UN yn condemnio 'the Israeli military's indiscriminate firing into civilian areas.'

Ac dyma sut oedd Reuters photo release yn portreadu'r stori:

I danlinellu pa mor chwerthinllyd yw'r bias, fe ddylid nodi bod heddlu'r Palesteiniaid wedi arestio dyn Palesteinaidd am y saethu!

1.2.05

Croeso i'r mis bach!

Mis Chwefror o'r diwedd! Un o fy ffefrynnau ymysg misoedd y flwyddyn.
Ac fe ges i "mention yn despatches" ar wefan y BBC.

Fel pawb arall, does dim syniad gen i os bydd democratiaeth yn cydio yn Irac neu beidio. Ond roedd gweld cymaint o bobl yn pleidleisio yno, er gwaetha'r bygythiad gan y terfysgwyr, yn galondid. Ac efallai roedd y "turnout" yno yn fwy na'r canran fydd yn pleidleisio yn yr etholiad cyffredinol ym Mhrydain eleni.