22.12.04

Bam

Wedi bod yn gwylio Breakfast, rhaglen newyddion BBC1, yr wythnos yma, ac maen nhw yn canolbwyntio ar y daeargryn oedd yn y ddinas hanesyddol Bam yn Iran ar ddydd Gwyl Steffan llynedd. Teimlo'n euog gan roeddwn i wedi anghofio popeth amdano fe - 26,000 wedi marw, 30,000 wedi anafu, 75,000 yn ddi-gartre'. Y bore yma roedden nhw'n siarad am yr amddifaid, gyda'r elusen Action for Orphans sy'n gwneud gwaith ardderchog yno.

16.12.04

'Mond hwyl

Ewch i The Political Compass i weld ble chi'n sefyll ar y graff politicaidd - ac hefyd i weld pa fath o gwmni gwleidyddol yn eich siwtio chi. Dim ond hwyl, wrth gwrs.

13.12.04

Foots Cray eto

Fe aethon ni yn y car i Bexleyheath bore Sadwrn - er mwyn i fy nwgraig 'neud gwaith ymchwil yn y llyfrgell yno. Treuliais i fy amser yn crwydro o gwmpas canol y dre (braidd yn ddiflas).
Ar ôl hynny, yn mynd ymlaen i Foots Cray - lle mae'r eglwys mae'r wraig yn gwneud ymchwil amdani. Unwaith eto, roedd pobl yr eglwys yn groesawgar iawn ac yn help mawr i ni. Fe wnaethon ni waith mesuro tu mewn, ac wedyn yn astudio fframiau'r ffenestri tu allan. Ac ar ôl awr yn gweithio tu allan i'r eglwys roedden ni'n teimlo'r oerfel. Wedyn, fe gawson ni goffi a rhywbeth i'w fwyta yn nhy un o aelodau'r eglwys - caredig iawn.
Fe brynes i rifyn diwetha' o'r cylchgrawn Uncut - gyda CD o artistiaid a ddylanwadodd ar Bob Dylan (mae dewis o covers y cylchgrawn - yr un arall gyda CD o bobl a ddylanwyd gan BD). Mae'r CD yn wych - gyda chaneuon gan Bert Jansch, Woody Guthrie, Martin Carthy, Hank Williams, Blind Willie McTell, Blind Lemon Jefferson etc.

2.12.04

Pwy sy' 'di gorffen siopa Nadolig?

Mae'n fis Rhagfyr yn barod. Bron yn Nadolig. Lle mae'r amser i gyd wedi mynd? Dwi ddim wedi dechrau siopa Nadolig eto. Bob blwyddyn wy'n aros tan y funud ola' - a phob blwyddyn wy'n penderfynu dechrau siopa ym mis Hydref. Sa'i'n gwbod 'to beth i'w neud amser 'Dolig. Efallai mynd i Gasnewydd Ddydd Gwyl Steffan. Dyw'r wraig ddim yn awyddus i fynd o gwbl. Gawn ni weld. Dwi'n casau Nadolig erbyn hyn. Mae'n cymryd drosodd mis Rhagfyr i gyd - does dim byd ond cysgod Nadolig yn hongian o gwmpas popeth (gan gynnwys y posting 'ma).