26.1.05

Ych a fi!

Neithiwr es i adre' tipyn ar ôl 7. Ar y ffordd i'r stesion tiwb, fe ddes i ar draws merch ifanc, del, yn piso ar y pafin. Roedd hi'n feddw gaib - totally wrecked - ac fe stopies i ofyn oedd hi'n iawn. Roedd yn anodd i'w deall gan ei bod hi'n slyrio ei geiriau cymaint (er hynny roeddwn i'n sylweddoli bod acen posh iawn 'da hi) ond fe wrthododd yn bendant i fi alw rhywun i'w chodi hi lân. Doedd dim amdani, felly, ond i'w gadael hi yn eistedd ar y pafin yn ei phants yn y glaw oer. Roedd hyn mewn stryd tawel yn un o'r rhannau mwya' moethus Kensington. Jiw, jiw - be' 'se dadcu yn ei feddwl, 'se fe'n gweld y fasiwn beth?

25.1.05


Nos Sadwrn aethon ni i gyngerdd y Kronos Quartet yn y Barbican. 'Dyn ni wedi eu gweld nhw sawl gwaith o'r blaen, ac yn eu hedmygu nhw yn fawr. Os cewch chi gyfle i fynd - mae'n noson arbennig. Cerddoriaeth wych, fodern a heriol.

21.1.05

Jenin, Jenin

Cynhyrchydd Palesteinaidd a wnaeth ffilm yn honni bod milwyr Israelaidd yn gyfrifol am droseddau rhyfel mewn gwersyll ffoaduriaid, wedi cyfaddef ei fod wedi ffugio golygfeydd, wedi defnyddio gwybodaeth anghywir ac wedi derbyn arian at y prosiect oddi wrth yr Awdurdod Palesteinaidd. (Am y stori llawn, gweler WorldNetDaily)

Muhammad Bakri, cynhyrchydd y ffilm ddogfen "Jenin, Jenin," sy'n honni bod Israel wedi cyflawni genocide yn Jenin yn Ebrill 2002, wedi cyfaddef mewn llys bod ei ffilm yn llawn anghywirdeb. Mae e'n cael ei erlyn yn y llys gan bump o filwyr Israel sy'n cael eu gweld mewn lluniau yn y ffilm. Mae'r ffilm yn honni bod milwyr Israel wedi lladd "nifer fawr" o ddinasyddion, wedi anafu cyrff y meirw Palesteinaidd, wedi lladd a bomio ar hap menywod, plant, pobl anabl a phobl gydag afiechyd meddyliol ac wedi dinistrio y gwersyll ffoaduriaid i gyd, gan gynnwys rhan o'r ysbyty leol.

Roedd honiadau gan arweinwyr y Palesteiniaid bod cyflafan wedi digwydd yn syth ar ôl byddin Israel wedi gweithredu yn Jenin. Roedden nhw'n siarad am dros 500 o ddinasyddion wedi eu lladd ac miloedd wedi eu hanafu. Wedyn, fe ddaeth yn glir bod 56 o Balesteiniaid , y rhan fwyaf ohonynt dynion arfog, wedi cael cael eu lladd, ac bod 23 milwyr Israel wedi cael eu lladd yn y frwydr.

14.1.05

Headline cas

Terfysgwyr Palesteinaidd, yn ymosod ar ddinasyddion Israel gyda rockets, mortars a bomiau, yn gwneud eu gorau glas i ddinistrio'r awyrgylch gobeithiol oedd yn dilyn etholiad Mahmud Abbas.

Ond rhai yn y media yn dal i feio Israel am bob dim. Headline cas ar erthygl gan asiantaeth Reuter yn The Scotsman (12 Ionawr) yn honni bod galwad ffôn Ariel Sharon i Mahmoud Abbas yn gyfrifol am y trais diweddaraf:




Am rywbeth hollol wahanol, roedd hyn yn fy nhiclo: http://phillyosophy.com/techbellringer.wmvPosted by Hello

10.1.05

Seisnigo'r mundo

Erthygl flaen ddiddorol yn y Guardian heddiw. Mae'r llywodraeth sosialaidd yn Chile yn dechrau ymgyrch i droi'r 15 miliwn o bobl Chile yn siaradwyr Saesneg. Y bwriad yw 'wneud y wlad yn ddwyieithog mewn un genhedlaeth - er mwyn y fantais ym myd busnes, mae'n debyg.

5.1.05

Blwyddyn Newydd Dda, wir

Fel tase unrhywun yn disgwyl, mae'r newyddion a'r papurau yn llawn eto o'r trasiedi diweddara' - y tsunami yn y Dwyrain Pell. Mae ymateb y cyhoedd wedi bod yn anhygoel - yma yn Llundain mae casgliadau ymhob man, gan gynnwys gweithwyr London Transport yn casglu yng ngorsafoedd y tiwb.

Ar safle Melanie Phillips mae erthygl diddorol ar The reporting of Iraq and Israel: an abuse of media power. Mae hi'n dweud bod y riportio yn y media am Iraq, Israel, y "neo-cons" etc. wedi bod yn rong, hysterical a biased. Tase ymosodiad gan terfysgwyr yn Llundain yn lladd cannoedd neu filoedd o bobl, bydde'r media yn beio Tony Blair. A dyna sy'n gwneud ymosodiad o'r fath yn fwy debygol.