29.10.04

Difyrru, Mr Soane


Ddoe (Dydd Iau) fe es i Amgueddfa Sir John Soane yn Lincoln's Inn Fields yn Llundain. Roedd Soane (1753-1837) yn bensaer talentog a roiodd ei dy fel amgueddfa. Mae'n llawn o'i gasgliadau: celfyddydau, archeoleg, llyfrau ac ati. Mae'r amgueddfa yn drysor o le, gwerth ei gweld os gewch y cyfle. Posted by Hello
Roedd newyddion bore 'ma yn llawn o Yasser Arafat, pen-bandit y Palesteiniaid, a'i salwch. Gyda lluniau teledu yn fyw ohono yn dechrau ei daith mewn hofrennydd o Ramallah i'r Iorddonen (cyn hedfan i'r ysbyty yn Ffrainc). Eironi gyrfa Arafat yw fod e wedi dod â'r Palesteiniaid i sylw y byd (drwy drais a therfysgaeth), ond drwy ei lywyddiaeth llygredig a'i wrthodiad i stopio trais fe gollodd ei gyfle i sefydlu gwladwriaeth Balesteinaidd.

25.10.04

Reigate


Dros y Sul fe aethon ni ar ymweliad gyda SPAB (Society for the Protection of Ancient Buildings) i Briordy Reigate, i'r De o Lundain. Fe gafodd y Priordy gwreiddiol ei adeiladu gan yr Augustinians yn y canol oesoedd, ac ar ôl y Diwygiad fe roiodd Henry VIII y lle fel plasty i deulu'r Howards. Erbyn hyn, mae'n ysgol gynradd.
Tu mewn mae 'na lle tân anhygoel o waith coed o'r 16eg ganrif, sy'n cael crybwyll gan John Evelyn yn ei ddydiadur enwog. Mae grisiau hyfryd, hefyd o waith coed ac yn hen iawn, gyda phaentiadau ar y wal gan Antonio Verrio (1639-1707). Posted by Hello

21.10.04

Da iawn chi, Grauniad


Dyma Dan Harkins, llywydd Republicanaidd yn Clark County, Ohio. Pam mae e'n gwenu? Mae papur newydd Seisnig y Guardian wedi bod yn rhedeg ymgyrch yn ddiweddar i gael ei ddarllenwyr i ysgrifennu at bleidleiswyr yn Ohio er mwyn cefnogi Kerry yn erbyn Bush. Mae'r ymgyrch wedi backfirio big-time, ac wedi rhoi hwb i'r Republicans yno. Dyw'r Americanwyr ddim yn licio pobl o wledydd eraill yn dweud i bwy ddylen nhw fotio. Posted by Hello

20.10.04

Boris yn y cach

Roedd erthygl golygyddol yn y Spectator wythnos diwetha' yn lladd ar y "mawkish sentimentality" ymysg pobl Lerpwl ynglyn â'r ymateb i farwolaeth Ken Bigley.
Ken Bigley oedd y dyn, yn wreiddiol o Lerpwl, a gafodd ei herwgipio yn Iraq. Er gwaetha' ymgyrch mawr ar ei ran, fe gafodd Mr Bigley ei lofruddio gan eithafwyr Islamaidd ar ôl wythnosau fel gwystl.
Dwi ddim yn cytuno gyda phopeth mae Boris yn dweud yn yr erthygl (a dwi ddim yn deall pam roedd rhaid iddo lusgo trychineb Hillsborough mewn), ond rwy'n cytuno gyda hyn: "In our maturity as a civilisation, we should accept that we can cut out the cancer of ignorant sentimentality without diminishing, as in this case, our utter disgust at a foul and barbaric act of murder. "
Nawr mae'r ymgyrch yn erbyn Boris Johnson wedi llwyddo i yrru fe i Lerpwl i ymddiheuro am ei sylwadau am y Scowsers. Mae ymddiheuriad hefyd ar ei wefan.
Ond be' sy'n dod i'm meddwl i yw hyn: pan ddwedodd y Scowser Ann Robinson pethau cas am y Cymry ar y rhaglen Room 101, roedd pawb yn ein beirniadu am ein ymateb i'w sylwadau hiliol a chreulon - am ein bod ni'n ddi-hiwmor. Ar un adeg roedd y Scowsers yn enwog am ei hiwmor - ond debyg maen nhw wedi anghofio am hyn.
Esboniad arall, wrth gwrs, yw bod gwleidyddwyr Llafur yn gweld cyfle i wneud cyfalaf politicaidd allan o'r stori, a doedd dim dewis gyda'r Torïaid ond gorfodi Boris i ddweud "sori" wrth y Scowsers.

19.10.04

Flip-Flop


Dyma John Kerry, gobaith mawr y Democratiaid, yn dangos ei ball-skills. Posted by Hello

14.10.04

Colli 'to

Siom eto. Colli i Poland - mae'r breuddwyd o weld Cymru yn chwarae yng Nghwpan y Byd drosodd am y tro. Sen i'n lico gweld Cymru yn cyrraedd y ffeinals rhyw ddydd.

Mae dadl diddorol ar y bwrdd trafod i ddysgwyr "ClwbMaluCachu" am wersi Cymraeg gorfodol yn yr ysgolion. Rhai o blaid, rhai yn erbyn. Fe ddwedodd rhywun fod canran siaradwyr Cymraeg yng Nghasnewydd yn 9.6%; roedd hyn yn swnio'n annhebyg i mi, ond ar wefan Cyngor Casnewydd mae'n honni bod canran siaradwyr Cymraeg yng Nghasnewydd yn 9.6% http://www.newport.gov.uk/_dc/index.cfm?fuseaction=population.keystats
Fel rhywun sy'n ymweld yn aml, dwi erioed wedi clywed Cymraeg yn cael ei siarad yn y stryd (heblaw am y 'Steddfod eleni, wrth gwrs). Rwy'n synnu at hyn, gan fod gyda ffigur o 9.6% byddwn i'n disgwyl glywed rhywun yng nghanol y ddinas yn siarad Cymraeg rhywbryd. Hyd yn oed dau ddysgwr yn cwrdd a'u gilydd ac yn dweud "shwd ych chi". Hyd yn oed yn y 'Steddfod fe es i at stondin yr Argus a gofyn yn Gymraeg am "goodie bag" roedden nhw'n gwerthu - a ges i "You what mate?"

Hefyd, tra mod i'n ymwybodol o'r ymdrechion ar ran yr awdurdodau yn y gorffennol i gael pobl i beidio siarad Cymraeg, dwi ddim yn meddwl bod hyn yn rhoi darlun cyflawn am sut mae'r symudiad i Saesneg wedi digwydd. Esiampl dda yw Dylan Thomas. Roedd ei ddau riant yn Gymry Cymraeg, wedi addysgu'n dda (y ddau yn athrawon). Roedd ei dad yn dod o deulu gyda thraddodiad barddol cryf, ac fe wnaethon nhw roi iddo enw o'r Mabinogi (ynghyd a'r enw "Marles" oddi wrth ei dad-cu o fardd). Ac eto roedden nhw'n siarad gyda fe yn Saesneg yn unig. Ac mae hynny yn dal i ddigwydd - fe weles i adroddiad yn Golwg llynedd, oedd yn dweud bod nifer go fawr o rieni (lle roedd y ddau riant yn Gymry Cymraeg, ac yn byw yn ardaloedd lle mae niferoedd mawr o Gymry Cymraeg) yn siarad gyda'u phlant yn Saeneg yn unig. Dwi ddim yn deall pam fod hynny'n digwydd o hyd. Rwy'n gallu gweld pam fod hyn wedi digwydd yn y gorffennol, pan doedd pobl yn gwybod am fanteision dwyiethrwydd, ond pam mae hynny'n digwydd heddiw yn benbleth i mi.

Rwy'n credu byddai'n ddefnyddiol astudio pam fod cymunedau ethnig yn fwy llwyddiannus i drosglwyddo eu hieithoedd a thraddodiadau, o gymharu a Chymry Cymraeg. Efallai bod rhesymau eraill - mwy o bwyslais ar barch at rieni a phobl hyn.

Rwy wedi sylweddoli nad yw Cymry Cymraeg yn "assertive" iawn ynglyn a'u hawliau. Mae nifer y bobl sy'n ymgyrchu dros yr iaith yn fach iawn a dydyn nhw ddim yn typical o boblogaeth y Cymry Cymraeg. Yn ol yn yr 1980au rwy'n cofio gwrando ar raglen ar y BBC World Service am y mewnlifiad mawr cyntaf o dde-dwyrain Lloegr i gefn gwlad Cymru, ar ol prisiau tai codi yn Lloegr. Fe gafodd Saesnes ei chyfweld oedd wedi prynu tarfarn y pentre mewn ardal Cymraeg ei hiaith yn y Gorllewin. Gofynnwyd iddi oedd unrhyw broblem gyda'r iaith Gymraeg yn ei thafarn. "Oh na", meddai, "weithiau mae'r bobl leol yn dechrau siarad Cymraeg, ond 'sdim ond rhaid i mi edrych arnyn nhw ac maen nhw'n troi yn ol at Saesneg". Roedd y cyfweliad yna yn drist iawn i mi - am ansensitifrwydd gwraig y tafarn, ac hefyd am ymddygiad y Cymry Cymraeg oedd yn fodlon ildio fel yna iddi.

11.10.04

Taclo'r tacle

Weles i highlights y gêm rhwng Cymru a Lloegr. Colli eto - 0-2. Cerdyn melyn i Beckham - roedd e'n haeddu coch ar ôl ei dacl twp, lle 'wnaeth e graco ei asen (rwy wedi bod yn amau ers achau fod ei dacl yn chwerthinllyd).
Nos Sadwrn fe aethon ni mâs i'r South Bank (y Purcell Room i fod yn hollol gywir) i weld cyngerdd gan fiolinydd o'r Weriniaeth Czech o'r enw Iva Bittova. Dyma oedd y tro cynta' i mi glywed amdani a doedd y noson ddim yn siomi. Mae hi'n canu yn ogystal a chwarae'r ffidil - mewn dull sy'n hollol unigryw, gyda lot o seiniau rhyfedd fel chwibanau a seiniau o'r gwddw (oedd weithiau yn fy atgoffa o Tanya Tagaq). Efallai mae hynny yn teimlo'n drwm, ond roedd ei hiwmor hi'n ysgafnhau'r noson.

9.10.04

Rhowch Hell iddyn nhw!

Na, nid siarad am y Dwyrain Canol y tro 'ma, ond dymuno'n dda i dîm peldroed Cymru yn y gêm heddiw yn erbyn Lloegr.

7.10.04

Gwaeth na ffans Grateful Dead

Fe ges i fy nghopi o lyfr Bob Dylan ddoe - diolch i Amazon. Ac y bore 'ma mae erthygl briliant gan Sam Leith yn y Daily Telegraph "The gospel according to Bob Dylan" (rwy'n credu bod rhaid cofrestru, ond mae hynny am ddim). Mae Leith yn gwneud sbort am ffans Dylan (fel finnau) a'r "Dylanologists": "Honestly. They're worse than Grateful Dead fans. In Ballad of a Thin Man, Dylan mocked his scholarly interpreters: "Something is happening here/ But you don't know what it is/ Do you, Mister Jones?" What did the Dylanologists do? They used the lyric as the title for an anthology of literary critical essays. " Erthygl doniol iawn, sy'n gwneud pwyntiau da am y rhaid i gadw pethau mewn perspectif.

4.10.04

Glasfyfs

O'r diwedd fe ges i gyfle i weld y myfyrwyr newydd ac i dywys rhai ohonyn nhw o gwmpas y llyfrgell. Fe wnes i dywys dau grwp. Roedd y grwp cynta' yn anodd iawn, ac roedd rhyw vibe gelyniaethus yn perthyn iddyn nhw. Iawn, pnawn Dydd Gwener oedd hi ar ddiwedd wythnos gynta'r tymor, ond pam na allen nhw esgus dangos tipyn o ddiddordeb? Roedd yr ail grwp yn well, gyda mwy o ymateb a cwestiynau.
Rwy'n edrych ymlaen i ddarllen llyfr Bob Dylan CHRONICLES: Volume One sy'n cael ei gyhoeddi yr wythnos 'ma. Mae'r detholiadau sy' wedi cyhoeddi yn y wasg yn edrych yn ddiddorol iawn. Ro'n i'n ofni byddai'r llyfr yn amhosib ei ddeall - fel ei nofel o'r chwedegau Tarantula. Ond na, mae'n ddigon hawdd ei ddarllen, gyda lot o fanylion am ei fywyd cynnar ac am ei ddylanwadau cerddorol.