31.8.04


Be' ydy blog heb lun o gath arno? Dyma Lizzie yn optio mâs o'r Rat Race. Posted by Hello
Wedi gorffen llyfr Dewi Pws "Theleri Thwp" dros y Sul. Doniol iawn, a hawdd i'w ddarllen. Llyfr da i ddysgwyr, gan ei fod e'n tynnu chi mewn i ddarllen mwy am ei fyd gwallgo'. Diddorol am ddatblygiad y SRG yn y saithdegau - dyddiau Tebot Piws, Edward H. Dafis ac ati. Mae'n ddiddorol hefyd pa mor aml mae Pws yn licio tynnu ei ddillad - ar y cwrs golff (mae'n gwadu iddo chwarae dau dwll pan yn borcyn - dim ond un twll oedd e), o flaen menywod parchus capel, ac yn y blaen.
Pws hefyd oedd y beirniad yng nghystadleuaeth y faled ddigri eleni yn Eisteddfod Casnewydd - pan oedd y Steddfod yn gwrthod printio baled yr ennillydd o achos rhesymau cyfreithiol. Ond mae "Golwg" yr wythnos 'ma yn dweud y byddan nhw'n cyhoeddi'r testun. Edrych ymlaen.

27.8.04

Lluniau o'r Lan Orllewinol

Dyma sioe sleidiau gan Dave, oedd yn gwasanaethu ym myddin Israel, gyda lluniau o'r checkpoint yn Kalandia ar y Lan Orllewinol.
Rwy wedi trosi rhai o sylwadau Dave:
99% o'r gwaith corfforol wnes i yn y checkpoint 'na oedd rhwystro trais "Arab-ar-Arab"...Roedd rhaid i ni erlid dau ddyn oedd wedi mygio gyrrwr tacsi Arabaidd. Roedd e'n crynu ac roedd rhaid i ni ei gysuro fe...Pan oeddwn i yn checkpoint [Kalandia], byddai dynion camera [o'r newyddion] yn aml yn troi lân ac aros am oriau i rywbeth i dynnu lluniau ohono. 99% o'r amser doedd 'na ddim byd i ffotograffio fel byddai'r gohebydd yn aros ac yn aros... Rwy'n cofio unwaith i ni helpu hen ddyn mynd mâs o'r checkpoint pan oedd e'n cerdded i'r cyfeiriad anghywir, doedd e ddim yn ein deall ni felly fe wnawn ni sefyll yn ei ffordd e er mwyn iddo ddeall bod hyn oedd y llwybr rong a throi rownd. Beth bynnag dyn camera yr AP [Associated Press] oedd yn cymeryd lluniau tra bo hyn yn digwydd. Roedd lot fawr o ddigwyddiadau fel hyn.

26.8.04

Mel Gibson

Stori yn y Telegraph y bore 'ma am "bla" beiblaidd o locustiaid yn ymosod ar y dre' Matera yn y Eidal, lle wnaeth Mel Gibson ei ffilm "The Passion". Mae'r locustiaid wedi gyrru'r twristiaid i ffwrdd, mae'n debyg, ac mae'r bobl leol yn dioddef. Beirniadaeth am y ffilm, 'fallai? He he he.
Darganfyddiad diweddar i mi yw canwr blws Americanaidd o'r enw Roy Book Binder. Fe brynes i Fideo o'i berfformiad yn y National Storytelling Festival yn Jonesborough, Tennessee yn 2001. Teitl y fideo yw Roy, The Reverend and the Devil's Music ac mae e'n dweud straeon doniol am ei ddyddiau yn dysgu'r blws ac yn trafaelio gyda'r canwr/gitarydd enwog, Y Parch Gary Davis. Ar ôl joio'r fideo cymaint, fe brynes i gwpl o CDs hefyd, ordro nhw o'i wefan - doedden nhw ddim ar Amazon.
Y blws yw fy hoff fath o gerddoriaeth, gan fy mod i bob tro yn dychwelyd i wrando arno fe. Rwy'n lico genres (wwww, gair Ffrangeg - pretentious neu be') eraill hefyd - ffan mawr o Bob Dylan, lico Björk lot (er bod ei cherddoriaeth hi yn hollol wahanol i bethe eraill rwy'n gwrando ar). Mae hi yn hollol anhygoel mewn cyngerdd byw. Ac hefyd dwi ddim yn gwneud gormod o ffys pan mae'r wraig yn fy llusgo i gyngherddau clasurol. Ie, Renaissance man, wir.

25.8.04

Edrych ymlaen

Mae'r glaw yn tu hwnt i jôc nawr. Rwy'n wel ffed-yp.
Edrych ymlaen at fynd am wyliau i Israel am wythnos ym mis Medi (tair wythnos arall i fynd) ac yn gweld tipyn o'r haul. Mae'n bum mlynedd ers i mi fod yno. Dyma lun ohona i yn Eilat y tro diwetha ger canolfan bywyd dan-fôr (rwy wedi colli'r barf ers hynny):


24.8.04

Blydi gwaith

Diwrnod diflas arall yn y gwaith. Taith crap ar y trên i Victoria, gyda rhyw foi egsentrig (i ddweud y leia', er ei fod yn gwisgo siwt smart) yn anadlu yn fy wyneb. Anghyfforddus iawn. Dim lot i'w 'neud yn y gwaith heddiw - bron dim stiwdants o gwmpas y lle 'to.

Ddoe fe ddaeth un stiwdant i mewn - wel! Fe wnes i sylweddoli y llynedd ei fod e'n dechrau gwisgo nail varnish du ar ei ewinedd, ond ddoe roedd yn gwisgo sgert mini, teits fishnet a high heels. Ges i ddim cyfle 'to i siarad a fe/hi. Yn amlwg mae e'n (hi'n?) mynd drwy ryw fath o newid yn ei fywyd, ond beth ddylen i ddweud wrtho fe/hi? Ddylen i gyfeirio at y newid, neu anwybyddu'r peth ac esgus fy mod i heb sylweddoli? Dilema.

Ddoe fe ddechreues i ddarllen un o'r llyfrau brynes i yn y Steddfod: llyfr Dewi Pws Theleri Thwp. Jiw, mae'r boi yn ddoniol. Dyma'r ddau frawddeg cynta': "Fe ges i fy ngeni ar Ebrill yr unfed ar hugain 1948, diwrnod pen-blwydd y Cwîn. Ond dwi ddim yn Cwîn fy hunan er bo fi'n helpu mas pan ma nhw'n fishi."
Fe brynes i hefyd Walia Wigli, gan Goronwy Jones, ac Un Diwrnod yn y Steddfod, gan Robin Llywelyn ac yn edrych ymlaen atyn nhw.

Croeso i'm mlog.

Croeso i fy mlog. Fy mwriad yw, i'w ddefnyddio fe i wella fy Nghymraeg.

Mike ydw i, yn wreiddiol o Gasnewydd (lle roedd y 'Steddfod eleni). Dysgwr ydw i ond heb y cyfle (fel rheol) i siarad yr iaith bob dydd. Roedd y Steddfod yn gyffrous iawn (clywed y Gymraeg ar strydoedd Casnewydd) ac rwy'n teimlo bod rhaid i mi wella safon fy Nghymraeg. Felly - rhywbeth i ymarfer defnyddio'r iaith ac i ysgrifennu ynddi.

Dw i'n byw yn "Y Mwg" ers 1988, ac yn gweithio fel llyfrgellydd yn un o golegau Prifysgol Llundain. Amser maith yn ôl fe ddechreues i ddysgu Cymraeg ar ben fy hun. Ar ôl hynny, mynd i ddosbarthiadau yma yn Llunden yng Nghanolfan Cymry Llundain a'r City Lit. Ac hefyd i "Gwrsiau Carlam" yn Aberystwyth a Llanymddyfri.