24.9.04

Trist iawn

Newydd ffeindio mâs bod Maes-e.com wedi bennu (am y tro). Mae hynny yn drueni mawr, ac mae Nic Dafis yn haeddu pob clod am ei waith. Mae wedi bod yn fforwm da i bractisio fy Nghymraeg - rwy'n siwr fod lot o bobl yn gwerthfawrogi gwaith Nic.
Heddiw rwy gartre' o'r gwaith, gan fod fy annwyd wedi troi'n waeth ac rwy'n pesychu non-stop. Rwy wedi llyncu boteli o Vitamin-C, Veno's Cough Mixture a Beecham's Powders. Dim lot o iws.
Rwy wedi dechrau tyfu'r farf unwaith eto. Fe siafies i ffwrdd 3 blynedd yn ôl, ac ers hynny rwy wedi sylweddoli fod y farf yn fy siwtio i. Hynny yw, dwi ddim yn edrych cynddrwg gyda'r farf ac ydw i hebddi hi. Rwy wedi bod yn meddwl am y peth ers amser, ond mae'r holiday snaps mwy diweddar wedi fy mherswadio bod rhaid wneud. Ond mae'n cosi.