21.9.04

Yn ôl i Lundain

Fe ddychweles i Lundain ddydd Sul ar ôl wythnos o wyliau yn Israel. Roedd yn wythnos gwych - awyr iach, tywydd braf heulog a dwym, bwyd da.
Roedd y taith o Lundain yn straen, gan fod y wraig yn ofni hedfan. Roedd Via, hen ffrind ysgol fy ngwraig, yn disgwyl amdanon ni yn y maes awyr, i roi lifft i ni i'r gwesty. Caredig iawn, yn enwedig cysidro'r amser i ni gyrraedd yno (11:30 p.m.). Erbyn hanner nos roedden ni wedi cyrraedd y gwesty yn Heol HaYarkon.
Ar y newyddion ar y teledu bore wedyn roedd cadarnhad bod Madonna yn dod ar ymweliad i Israel hefyd. 'Naethon ni ddim bympo mewn iddi - ond dwi ddim yn siomedig iawn: dwi erioed wedi bod yn ffan.
Fe gwrddon ni a Michaela, cyfnither fy ngwraig, a'i gwr Sergiu a cherdded o gwmpas Tel Aviv ac i Ganolfan Dizengoff. Yn y pnawn fe gawson ni amser hyfryd ar y traeth. Ac fe fwyton ni hwmws a pita mewn caffi ar y traeth, yn edrych dros y Mor Canoldir.
Gan fod fy ngwraig yn bensaeres, gyda diddordeb mewn pensaerniaeth y 1920au a 1930au, fe dreulion ni lot o amser yn crwydro strydoedd Tel Aviv - sy'n llawn adeiladau braf o'r cyfnod hwn.
Posted by Hello
Ar ddydd Gwener fe aethon ni i Jerwsalem i aros mewn gwesty am 4 diwrnod. Fe wnaethon ni gerdded strydoedd Jeriwsalem am oriau, yn tynnu lluniau o adeiladau braf.
Ddydd Iau roedd y Blwyddyn Newydd Iddewig, ac fe aethon ni at y Kotel - hynny yw, y wal orllewinol o'r Teml yn Jeriwsalem.

Y Kotel Posted by Hello

Ddydd Gwener, fe aethon ni at Michaela a Sergiu yn Holon, ger Tel Aviv, i gael cinio.
Ddydd Sadwrn rhagor o gerdded a thynnu lluniau. Yn y nos, cwrdd a hen fos fy ngwraig a chael swper ym mwyty y YMCA yn Jeriwsalem. Adeilad hardd iawn o'r 30au, gan yr un pensaer a wnaeth yr Empire State Building yn Efrog Newydd.
A chodi'n gynnar iawn ddydd Sul i deithio i'r maes awyr, a theimlo'n drist bod y gwyliau mor fyr.
Yn Llundain roedden ni'n teimlo'n oer iawn, a gweld y cymylau llwyd diflas yn ein croesawu ni yn ôl.