26.4.05

Etholiad

Wel, dros mis wedi mynd heibio heb i mi sgrifennu yma. Dim ond ychydig dros wythnos i fynd cyn yr etholiad. Rwy'n teimlo bod bob etholiad cyffredinol yn fwy ddiflas na'r un o'i flaen. Mae'n anodd roi tocyn bws rhwng y dwy brif blaid ar ran fwya'r polisiau. Etholiad di-fflach a diflas.

Hyd yn hyn, yma yn Llundain, dim ond oddi wrth Llafur a'r Lib Dems wy wedi derbyn gwybodaeth etholiadol - dim byd gan y Ceidwadwyr na UKIP. A does neb yn cnocio ar y drws i ofyn yn bersonol am bleidlais bellach, chwaith. Nid fy mod i'n cwyno, 'chwel.

Ddydd Gwener diwethaf penderfynodd fy undeb, Association of University Teachers, i foicotio prifysgolion yn Israel. Gan fy mod i wedi astudio yn un o'r prifysgolion hyn - Prifysgol Haifa, lle roeddwn i'n arfer gweithio hefyd - efallai ddylwn i fy moicotio fy hunan? Ta p'un am hynny, rwy wedi gyrru llythyr at yr AUT i ganslo fy aelodaeth.