18.9.07

Byddin Israel yn gofyn am dâp heb doriadau o achos Mohammed Al-Dura

Mae Tsahal (Byddin Israel) wedi gyrru llythyr at orsaf deledu France 2, yn gofyn iddyn nhw ryddhau y fersiwn llawn, heb doriadau, o dâp Mohammed al-Dura.

Fe gafodd y llythyr ei anfon at ohebydd France 2 yn Israel, Charles Enderlin, ac mae'n ymwneud â stori o 30 Medi, 2000. Yn y stori fe ddangosodd Enderlin 55 eiliad o fideo wedi ei golygu, o gyffordd Netsarim yng nghanol Llain Gaza, yn honni bod milwyr Israel wedi saethu bachgen 12 oed Mohammed al-Dura i farwolaeth.

Ar ôl darlledu'r fideo, fe gynigiodd France 2 y fideo yn rhad ac am ddim i gwmnïau darlledu y byd. Fe gafodd y fideo, a'r stori am laddiad Mohammed al-Dura, ei ail-ddarlledu o gwmpas y byd.

O fewn dyddiau, fe ddaeth Mohammed al-Dura yn symbol o'r Intifada. Mae'r enw al-Dura wedi cael ei defnyddio drosodd a throsodd gan derfysgwyr a'u chefnogwyr i gyfiawnhau lladd Israeliaid, Iddewon ac eraill. Er enghraifft, fe gafodd al-Dura ei enwi yn y fideo gan y terfysgwyr a laddodd y newyddiadurwr Daniel Pearl yn Pakistan.

Yn y llythyr mae Byddin Israel yn gofyn am y tâp llawn (27 munud) a gafodd ei saethu gan ddyn camera Palestinaidd France 2, Talal Abu-Rahma, yn ogystal a'r ffilm gafodd ei saethu gan Abu-Rahma ar 1 Tachwedd, 2000. Hyd yn hyn, dyw France 2 wedi ymateb i'r cais.

Mae ymgais Tsahal wedi dod ar gefndir brwydr cyfreithiol gan Philippe Karsenty yn ymwneud â'r ffordd oedd France 2 yn trafod achos al-Dura.