11.10.04

Taclo'r tacle

Weles i highlights y gêm rhwng Cymru a Lloegr. Colli eto - 0-2. Cerdyn melyn i Beckham - roedd e'n haeddu coch ar ôl ei dacl twp, lle 'wnaeth e graco ei asen (rwy wedi bod yn amau ers achau fod ei dacl yn chwerthinllyd).
Nos Sadwrn fe aethon ni mâs i'r South Bank (y Purcell Room i fod yn hollol gywir) i weld cyngerdd gan fiolinydd o'r Weriniaeth Czech o'r enw Iva Bittova. Dyma oedd y tro cynta' i mi glywed amdani a doedd y noson ddim yn siomi. Mae hi'n canu yn ogystal a chwarae'r ffidil - mewn dull sy'n hollol unigryw, gyda lot o seiniau rhyfedd fel chwibanau a seiniau o'r gwddw (oedd weithiau yn fy atgoffa o Tanya Tagaq). Efallai mae hynny yn teimlo'n drwm, ond roedd ei hiwmor hi'n ysgafnhau'r noson.