20.10.04

Boris yn y cach

Roedd erthygl golygyddol yn y Spectator wythnos diwetha' yn lladd ar y "mawkish sentimentality" ymysg pobl Lerpwl ynglyn â'r ymateb i farwolaeth Ken Bigley.
Ken Bigley oedd y dyn, yn wreiddiol o Lerpwl, a gafodd ei herwgipio yn Iraq. Er gwaetha' ymgyrch mawr ar ei ran, fe gafodd Mr Bigley ei lofruddio gan eithafwyr Islamaidd ar ôl wythnosau fel gwystl.
Dwi ddim yn cytuno gyda phopeth mae Boris yn dweud yn yr erthygl (a dwi ddim yn deall pam roedd rhaid iddo lusgo trychineb Hillsborough mewn), ond rwy'n cytuno gyda hyn: "In our maturity as a civilisation, we should accept that we can cut out the cancer of ignorant sentimentality without diminishing, as in this case, our utter disgust at a foul and barbaric act of murder. "
Nawr mae'r ymgyrch yn erbyn Boris Johnson wedi llwyddo i yrru fe i Lerpwl i ymddiheuro am ei sylwadau am y Scowsers. Mae ymddiheuriad hefyd ar ei wefan.
Ond be' sy'n dod i'm meddwl i yw hyn: pan ddwedodd y Scowser Ann Robinson pethau cas am y Cymry ar y rhaglen Room 101, roedd pawb yn ein beirniadu am ein ymateb i'w sylwadau hiliol a chreulon - am ein bod ni'n ddi-hiwmor. Ar un adeg roedd y Scowsers yn enwog am ei hiwmor - ond debyg maen nhw wedi anghofio am hyn.
Esboniad arall, wrth gwrs, yw bod gwleidyddwyr Llafur yn gweld cyfle i wneud cyfalaf politicaidd allan o'r stori, a doedd dim dewis gyda'r Torïaid ond gorfodi Boris i ddweud "sori" wrth y Scowsers.