14.10.04

Colli 'to

Siom eto. Colli i Poland - mae'r breuddwyd o weld Cymru yn chwarae yng Nghwpan y Byd drosodd am y tro. Sen i'n lico gweld Cymru yn cyrraedd y ffeinals rhyw ddydd.

Mae dadl diddorol ar y bwrdd trafod i ddysgwyr "ClwbMaluCachu" am wersi Cymraeg gorfodol yn yr ysgolion. Rhai o blaid, rhai yn erbyn. Fe ddwedodd rhywun fod canran siaradwyr Cymraeg yng Nghasnewydd yn 9.6%; roedd hyn yn swnio'n annhebyg i mi, ond ar wefan Cyngor Casnewydd mae'n honni bod canran siaradwyr Cymraeg yng Nghasnewydd yn 9.6% http://www.newport.gov.uk/_dc/index.cfm?fuseaction=population.keystats
Fel rhywun sy'n ymweld yn aml, dwi erioed wedi clywed Cymraeg yn cael ei siarad yn y stryd (heblaw am y 'Steddfod eleni, wrth gwrs). Rwy'n synnu at hyn, gan fod gyda ffigur o 9.6% byddwn i'n disgwyl glywed rhywun yng nghanol y ddinas yn siarad Cymraeg rhywbryd. Hyd yn oed dau ddysgwr yn cwrdd a'u gilydd ac yn dweud "shwd ych chi". Hyd yn oed yn y 'Steddfod fe es i at stondin yr Argus a gofyn yn Gymraeg am "goodie bag" roedden nhw'n gwerthu - a ges i "You what mate?"

Hefyd, tra mod i'n ymwybodol o'r ymdrechion ar ran yr awdurdodau yn y gorffennol i gael pobl i beidio siarad Cymraeg, dwi ddim yn meddwl bod hyn yn rhoi darlun cyflawn am sut mae'r symudiad i Saesneg wedi digwydd. Esiampl dda yw Dylan Thomas. Roedd ei ddau riant yn Gymry Cymraeg, wedi addysgu'n dda (y ddau yn athrawon). Roedd ei dad yn dod o deulu gyda thraddodiad barddol cryf, ac fe wnaethon nhw roi iddo enw o'r Mabinogi (ynghyd a'r enw "Marles" oddi wrth ei dad-cu o fardd). Ac eto roedden nhw'n siarad gyda fe yn Saesneg yn unig. Ac mae hynny yn dal i ddigwydd - fe weles i adroddiad yn Golwg llynedd, oedd yn dweud bod nifer go fawr o rieni (lle roedd y ddau riant yn Gymry Cymraeg, ac yn byw yn ardaloedd lle mae niferoedd mawr o Gymry Cymraeg) yn siarad gyda'u phlant yn Saeneg yn unig. Dwi ddim yn deall pam fod hynny'n digwydd o hyd. Rwy'n gallu gweld pam fod hyn wedi digwydd yn y gorffennol, pan doedd pobl yn gwybod am fanteision dwyiethrwydd, ond pam mae hynny'n digwydd heddiw yn benbleth i mi.

Rwy'n credu byddai'n ddefnyddiol astudio pam fod cymunedau ethnig yn fwy llwyddiannus i drosglwyddo eu hieithoedd a thraddodiadau, o gymharu a Chymry Cymraeg. Efallai bod rhesymau eraill - mwy o bwyslais ar barch at rieni a phobl hyn.

Rwy wedi sylweddoli nad yw Cymry Cymraeg yn "assertive" iawn ynglyn a'u hawliau. Mae nifer y bobl sy'n ymgyrchu dros yr iaith yn fach iawn a dydyn nhw ddim yn typical o boblogaeth y Cymry Cymraeg. Yn ol yn yr 1980au rwy'n cofio gwrando ar raglen ar y BBC World Service am y mewnlifiad mawr cyntaf o dde-dwyrain Lloegr i gefn gwlad Cymru, ar ol prisiau tai codi yn Lloegr. Fe gafodd Saesnes ei chyfweld oedd wedi prynu tarfarn y pentre mewn ardal Cymraeg ei hiaith yn y Gorllewin. Gofynnwyd iddi oedd unrhyw broblem gyda'r iaith Gymraeg yn ei thafarn. "Oh na", meddai, "weithiau mae'r bobl leol yn dechrau siarad Cymraeg, ond 'sdim ond rhaid i mi edrych arnyn nhw ac maen nhw'n troi yn ol at Saesneg". Roedd y cyfweliad yna yn drist iawn i mi - am ansensitifrwydd gwraig y tafarn, ac hefyd am ymddygiad y Cymry Cymraeg oedd yn fodlon ildio fel yna iddi.