4.10.04

Glasfyfs

O'r diwedd fe ges i gyfle i weld y myfyrwyr newydd ac i dywys rhai ohonyn nhw o gwmpas y llyfrgell. Fe wnes i dywys dau grwp. Roedd y grwp cynta' yn anodd iawn, ac roedd rhyw vibe gelyniaethus yn perthyn iddyn nhw. Iawn, pnawn Dydd Gwener oedd hi ar ddiwedd wythnos gynta'r tymor, ond pam na allen nhw esgus dangos tipyn o ddiddordeb? Roedd yr ail grwp yn well, gyda mwy o ymateb a cwestiynau.
Rwy'n edrych ymlaen i ddarllen llyfr Bob Dylan CHRONICLES: Volume One sy'n cael ei gyhoeddi yr wythnos 'ma. Mae'r detholiadau sy' wedi cyhoeddi yn y wasg yn edrych yn ddiddorol iawn. Ro'n i'n ofni byddai'r llyfr yn amhosib ei ddeall - fel ei nofel o'r chwedegau Tarantula. Ond na, mae'n ddigon hawdd ei ddarllen, gyda lot o fanylion am ei fywyd cynnar ac am ei ddylanwadau cerddorol.