29.10.04

Difyrru, Mr Soane


Ddoe (Dydd Iau) fe es i Amgueddfa Sir John Soane yn Lincoln's Inn Fields yn Llundain. Roedd Soane (1753-1837) yn bensaer talentog a roiodd ei dy fel amgueddfa. Mae'n llawn o'i gasgliadau: celfyddydau, archeoleg, llyfrau ac ati. Mae'r amgueddfa yn drysor o le, gwerth ei gweld os gewch y cyfle. Posted by Hello
Roedd newyddion bore 'ma yn llawn o Yasser Arafat, pen-bandit y Palesteiniaid, a'i salwch. Gyda lluniau teledu yn fyw ohono yn dechrau ei daith mewn hofrennydd o Ramallah i'r Iorddonen (cyn hedfan i'r ysbyty yn Ffrainc). Eironi gyrfa Arafat yw fod e wedi dod รข'r Palesteiniaid i sylw y byd (drwy drais a therfysgaeth), ond drwy ei lywyddiaeth llygredig a'i wrthodiad i stopio trais fe gollodd ei gyfle i sefydlu gwladwriaeth Balesteinaidd.