26.8.04

Darganfyddiad diweddar i mi yw canwr blws Americanaidd o'r enw Roy Book Binder. Fe brynes i Fideo o'i berfformiad yn y National Storytelling Festival yn Jonesborough, Tennessee yn 2001. Teitl y fideo yw Roy, The Reverend and the Devil's Music ac mae e'n dweud straeon doniol am ei ddyddiau yn dysgu'r blws ac yn trafaelio gyda'r canwr/gitarydd enwog, Y Parch Gary Davis. Ar ôl joio'r fideo cymaint, fe brynes i gwpl o CDs hefyd, ordro nhw o'i wefan - doedden nhw ddim ar Amazon.
Y blws yw fy hoff fath o gerddoriaeth, gan fy mod i bob tro yn dychwelyd i wrando arno fe. Rwy'n lico genres (wwww, gair Ffrangeg - pretentious neu be') eraill hefyd - ffan mawr o Bob Dylan, lico Björk lot (er bod ei cherddoriaeth hi yn hollol wahanol i bethe eraill rwy'n gwrando ar). Mae hi yn hollol anhygoel mewn cyngerdd byw. Ac hefyd dwi ddim yn gwneud gormod o ffys pan mae'r wraig yn fy llusgo i gyngherddau clasurol. Ie, Renaissance man, wir.