31.8.04

Wedi gorffen llyfr Dewi Pws "Theleri Thwp" dros y Sul. Doniol iawn, a hawdd i'w ddarllen. Llyfr da i ddysgwyr, gan ei fod e'n tynnu chi mewn i ddarllen mwy am ei fyd gwallgo'. Diddorol am ddatblygiad y SRG yn y saithdegau - dyddiau Tebot Piws, Edward H. Dafis ac ati. Mae'n ddiddorol hefyd pa mor aml mae Pws yn licio tynnu ei ddillad - ar y cwrs golff (mae'n gwadu iddo chwarae dau dwll pan yn borcyn - dim ond un twll oedd e), o flaen menywod parchus capel, ac yn y blaen.
Pws hefyd oedd y beirniad yng nghystadleuaeth y faled ddigri eleni yn Eisteddfod Casnewydd - pan oedd y Steddfod yn gwrthod printio baled yr ennillydd o achos rhesymau cyfreithiol. Ond mae "Golwg" yr wythnos 'ma yn dweud y byddan nhw'n cyhoeddi'r testun. Edrych ymlaen.