24.8.04

Blydi gwaith

Diwrnod diflas arall yn y gwaith. Taith crap ar y trên i Victoria, gyda rhyw foi egsentrig (i ddweud y leia', er ei fod yn gwisgo siwt smart) yn anadlu yn fy wyneb. Anghyfforddus iawn. Dim lot i'w 'neud yn y gwaith heddiw - bron dim stiwdants o gwmpas y lle 'to.

Ddoe fe ddaeth un stiwdant i mewn - wel! Fe wnes i sylweddoli y llynedd ei fod e'n dechrau gwisgo nail varnish du ar ei ewinedd, ond ddoe roedd yn gwisgo sgert mini, teits fishnet a high heels. Ges i ddim cyfle 'to i siarad a fe/hi. Yn amlwg mae e'n (hi'n?) mynd drwy ryw fath o newid yn ei fywyd, ond beth ddylen i ddweud wrtho fe/hi? Ddylen i gyfeirio at y newid, neu anwybyddu'r peth ac esgus fy mod i heb sylweddoli? Dilema.

Ddoe fe ddechreues i ddarllen un o'r llyfrau brynes i yn y Steddfod: llyfr Dewi Pws Theleri Thwp. Jiw, mae'r boi yn ddoniol. Dyma'r ddau frawddeg cynta': "Fe ges i fy ngeni ar Ebrill yr unfed ar hugain 1948, diwrnod pen-blwydd y Cwîn. Ond dwi ddim yn Cwîn fy hunan er bo fi'n helpu mas pan ma nhw'n fishi."
Fe brynes i hefyd Walia Wigli, gan Goronwy Jones, ac Un Diwrnod yn y Steddfod, gan Robin Llywelyn ac yn edrych ymlaen atyn nhw.