21.2.05

Ffrindiau Ken

Mae Maer Llundain, Ken Livingstone, wedi bod mewn trafferth yn ddiweddar ar ôl ei sylwadau wrth newyddiadurwr o'r Evening Standard. Yn fy marn i, roedd ei sylwadau yn dwp, ansensitif ac yn hurt, ond i ddweud bod nhw'n wrth-semitaidd yn mynd yn rhy bell. Ond mae Ken wedi denu edmygwyr newydd, mae'n debyg. Yn ôl colofn Mandrake yn y Sunday Telegraph ddoe, mae David Irving (yr awdur gwrth-semitaidd) wedi rhoi ei gefnogaeth i Ken. Un arall sy'n cefnogu Ken yw'r cyn-fodel ffasiwn cyfoethog "Lady" Michelle Renouf. Fe gafodd hi ei diarddel o Brifysgol Llundain cwpl o flynyddoedd yn ôl am ei ymgyrchu gwrth-semitaidd. Hi, hefyd, oedd y "mystery blonde" yn mynd i gefnogu David Irving bob dydd yn ystod ei achos llys enwog yn erbyn hanesydd a'i alwodd yn "anti-Semite and racist."