28.2.05

Hen Saesnes gas

Dros y Sul, fe aeth fy ngwraig a minnau ar ymweliad i Greenwich. Roedd yr ymweliad wedi'i trefnu gan Society for Protection of Ancient Buildings i bobl sy'n ymddiddori ym mhensaerniaeth hanesyddol ('ngwraig yw'r un gyda'r diddordeb mawr ym mhensaerniaeth). Wel, roedd y trip yn neis iawn - "Maritime Greenwich", adeiladau hardd o'r 17eg canrif ymlaen, gyda twysydd gwybodus.
Fel rhan o'r trip, roedd ymweliad i dy preifat (adeiladwyd 1717) - roedd yr hen fenyw sy'n perchen y ty yn egsentrig iawn ond hael a chymwynasgar. Roedd 30 ohonon ni yn y grwp, ac roedd yr hen fenyw wedi paratoi cinio neis iawn i ni. Hefyd, fe gawson ni ein croesawu gyda glasied o champagne (hyn i gyd am £7.50!). Roedd popeth yn fendigedig. Smile
Ond yn anffodus, digwyddodd rywbeth annifyr iawn. Roedd 'na hen Saesnes yn eistedd ar bwys fy ngwraig - yn ei chwedegau cynnar, efallai. Fe ddechreuodd hi siarad am ei thy gyda 11 o aceri wrth ymyl Cadair Idris, a pha mor braf yw ei bywyd yno yn Eryri. Fe sylweddolais fod ei wedi cael ei effeithio gan y diod. Yna fe ofynnodd: "Gyda llaw, oes rhywun yma o Gymru?" Medde fi "Oes - fi". Ac yna, dyna hi'n dechrau araith yn erbyn y Cymry: rydyn ni'n ddiog, ddim yn gwerthfawrogi ein tirlun, ddim yn gwneud dim byd nac ymddiddori yn ddim byd ond ein "rotten language", a dim ond y Saeson sy' wedi symud i Gymru yn gwneud unrhywbeth o werth yno, ac ati. Mynd ymlaen ac ymlaen.
Fe ddechreuais i ymateb, ond fe gydiodd fy ngwraig yn fy llaw - "Paid dweud gair, mae hi'n creu embaras iddi hun". Fe wnes i edrych o gwmpas, a sylweddoli bod yr eraill yno yn edrych yn embarasd.
Hen fenyw gas a dwl, wedi gwneud cywilydd iddi hun ar ôl glasied o win. Fe ddyle hi ffwcio ei hun yn ffenest Harrod's. Gobeithio bydd pobl yn gas iddi hithau pan aiff hi'n ôl i Gymru.