21.1.05

Jenin, Jenin

Cynhyrchydd Palesteinaidd a wnaeth ffilm yn honni bod milwyr Israelaidd yn gyfrifol am droseddau rhyfel mewn gwersyll ffoaduriaid, wedi cyfaddef ei fod wedi ffugio golygfeydd, wedi defnyddio gwybodaeth anghywir ac wedi derbyn arian at y prosiect oddi wrth yr Awdurdod Palesteinaidd. (Am y stori llawn, gweler WorldNetDaily)

Muhammad Bakri, cynhyrchydd y ffilm ddogfen "Jenin, Jenin," sy'n honni bod Israel wedi cyflawni genocide yn Jenin yn Ebrill 2002, wedi cyfaddef mewn llys bod ei ffilm yn llawn anghywirdeb. Mae e'n cael ei erlyn yn y llys gan bump o filwyr Israel sy'n cael eu gweld mewn lluniau yn y ffilm. Mae'r ffilm yn honni bod milwyr Israel wedi lladd "nifer fawr" o ddinasyddion, wedi anafu cyrff y meirw Palesteinaidd, wedi lladd a bomio ar hap menywod, plant, pobl anabl a phobl gydag afiechyd meddyliol ac wedi dinistrio y gwersyll ffoaduriaid i gyd, gan gynnwys rhan o'r ysbyty leol.

Roedd honiadau gan arweinwyr y Palesteiniaid bod cyflafan wedi digwydd yn syth ar ôl byddin Israel wedi gweithredu yn Jenin. Roedden nhw'n siarad am dros 500 o ddinasyddion wedi eu lladd ac miloedd wedi eu hanafu. Wedyn, fe ddaeth yn glir bod 56 o Balesteiniaid , y rhan fwyaf ohonynt dynion arfog, wedi cael cael eu lladd, ac bod 23 milwyr Israel wedi cael eu lladd yn y frwydr.