26.1.05

Ych a fi!

Neithiwr es i adre' tipyn ar ôl 7. Ar y ffordd i'r stesion tiwb, fe ddes i ar draws merch ifanc, del, yn piso ar y pafin. Roedd hi'n feddw gaib - totally wrecked - ac fe stopies i ofyn oedd hi'n iawn. Roedd yn anodd i'w deall gan ei bod hi'n slyrio ei geiriau cymaint (er hynny roeddwn i'n sylweddoli bod acen posh iawn 'da hi) ond fe wrthododd yn bendant i fi alw rhywun i'w chodi hi lân. Doedd dim amdani, felly, ond i'w gadael hi yn eistedd ar y pafin yn ei phants yn y glaw oer. Roedd hyn mewn stryd tawel yn un o'r rhannau mwya' moethus Kensington. Jiw, jiw - be' 'se dadcu yn ei feddwl, 'se fe'n gweld y fasiwn beth?