21.12.05

Ail-edrych

Dros 5 mlynedd yn ôl, fe gafodd fideo o fachgen bach, Muhamed al Durah, a'i dad ei fflachio o gwmpas y byd fel esiampl o filwyr Israel yn llofruddio plentyn. Pwy all anghofio'r lluniau dychrynllyd o funudau olaf y plentyn? Mae'r fideo wedi cael effaith anferth, yn cyfrannu at ddatblygiad yr "Intifada". Yn ôl neb llai nag Osama bin Laden, “drwy ladd y bachgen hwn mae'r Israeliaid wedi lladd bob blentyn yn y byd.” I rai yn y Gorllewin effaith y lluniau oedd i gymharu'r Israeliaid gyda'r Natsiaid.

Ond yn ddiweddar mae pobl wedi bod yn ail-edrych ar y fideo yn fwy fanwl - ac mae lot o gwestiynau yn codi. Dyma fideo sy'n olrhain y digwyddiadau hyn, ac sy'n holi'r dyn camera a saethodd y lluniau.