20.12.05

Yn ôl i Lundain (eto)

Wedi treulio wythnos yn Israel (yn Eilat, ar Y Mor Coch). Gwyliau ffantastig - haul yn disgleirio bob dydd (gyda tymharedd o 28°C), nofio yn y mor ac ym mhwll nofio'r gwesty, herio "mini-jeep" 4-wheel drive i fynd am dro yn y mynyddoedd o gwmpas Eilat (lle mae'r golygfeydd yn arall-fydol), ac yn gwneud tripiau i'r anialwch ac i warchodfeydd natur. Gwneud tripiau cwch ac yn gweld dolffiniaid yn agos iawn. Rwy'n gobeithio postio lluniau cyn bo hir.

Mae hyn wedi codi fy ysbryd i fod yn barod i wynebu'r gaeaf (i ryw raddau).