11.11.05

Ydy Paris yn llosgi?

Gan fy mod i wedi bod ati yn dysgu Ffrangeg yn ddiweddar, rwy'n edrych o bryd i'w gilydd ar raglennau'r sianel Ffrangeg ar Sky (TV5). Pythefnos yn ôl fe ges fy synnu i weld bod rhai o banlieues Paris yn mynd yn fflamiau, gyda grwpiau o lanciau yn llosgi ceir ac adeiladau. Ar y pryd doedd dim sôn am hyn ar y BBC neu yn y papurau Prydeinig. Roedd rhaid aros rhai dyddiau cyn gweld storiau am y terfysgoedd yn y wasg.

Ac ers hynny mae'r papurau a'r BBC wedi bod yn ofalus iawn yn eu disgrifiadau o'r terfysgwyr. Er bod y "youths" wedi bod yn gweiddi "Allahu Akbar" (Mawr yw Duw), mae'r cyfryngis yn gwneud eu gorau glas i osgoi crybwyll y gair "Moslem".

Tra bod papurau fel y Guardian, Independent, New York Times a Washington Post wedi ymuno a'r cyfryngis eraill yn disgrifio'r llanast yn Ffrainc fel arwydd o problemau economaidd a chymdeithasol, mae Robert Spencer wedi chwilio'r rhesymau go iawn pam mae Moslemiaid eisiau chwalu cymdeithas seciwlar Ffrainc.

Ac mae Mark Steyn yn dod i gasgliadau tebyg, ac yn annog Ewrop i ddihuno i'r ffaith fod rhyfel cartref ar ei dwylo.