Fe aethon ni yn y car i Bexleyheath bore Sadwrn - er mwyn i fy nwgraig 'neud gwaith ymchwil yn y llyfrgell yno. Treuliais i fy amser yn crwydro o gwmpas canol y dre (braidd yn ddiflas).
Ar ôl hynny, yn mynd ymlaen i Foots Cray - lle mae'r eglwys mae'r wraig yn gwneud ymchwil amdani. Unwaith eto, roedd pobl yr eglwys yn groesawgar iawn ac yn help mawr i ni. Fe wnaethon ni waith mesuro tu mewn, ac wedyn yn astudio fframiau'r ffenestri tu allan. Ac ar ôl awr yn gweithio tu allan i'r eglwys roedden ni'n teimlo'r oerfel. Wedyn, fe gawson ni goffi a rhywbeth i'w fwyta yn nhy un o aelodau'r eglwys - caredig iawn.
Fe brynes i rifyn diwetha' o'r cylchgrawn
Uncut - gyda CD o artistiaid a ddylanwadodd ar Bob Dylan (mae dewis o
covers y cylchgrawn - yr un arall gyda CD o bobl a ddylanwyd
gan BD). Mae'r CD yn wych - gyda chaneuon gan Bert Jansch, Woody Guthrie, Martin Carthy, Hank Williams, Blind Willie McTell, Blind Lemon Jefferson etc.