9.11.04

Ffrijys ac ati

Fe aeth y wraig, Viorica, ar drip dau-ddiwrnod ddydd Gwener a Sadwrn diwetha'. Roedd y trip yn rhan o'i chwrs "Building Conservation" yn yr Architectural Association - yn ymweld â hen eglwysi ac ati rhywle yng nghefn gwlad Lloegr. Fe gafodd hi bas gyda dau stiwdant arall, ond yn anffodus dyma hi'n mynd yn sâl yn y car. Erbyn iddi gyrraedd adre' nos Sadwrn roedd hi'n edrych fel rhywbeth left-over o barti Calan Gaeaf! Creadures.
Roedd hi'n dal yn welw ar y Sul, pan ddaeth Ken a Christina aton ni i ginio. Maen nhw'n cyn-cydweithwyr o fy ngwraig (y ddau yn dod o Hong Kong) ac 'dyn ni'n cwrdd o dro i dro i fwyta bwyd Chineaidd. Mae Ken yn meddwl am brynu fflat fach yn Llundain (fflat un lloft) - mae'n gallu fforddio prynu un am ryw £140,000, ond mae'n anodd ffeindio rhywbeth am y pris 'na yn Llundain. Fe dreiodd fy ngwraig i'w berswadio fe i brynu yn ein ardal ni - ond 'dyn ni byw i'r De o'r afon, ac mae Ken yn edrych yn amheus iawn o fentro byw yma. Peryg bywyd.
Mae ein hen ffrij ni wedi mynd ers rhai wythnosau nawr, ac ers hynny 'dyn ni wedi bod yn defnyddio drinks cooler yn lle'r oergell. Felly, ddydd Gwener diwetha', dyma fi'n ordro ffrij newydd ar y We (o Comet). Os bydd popeth yn iawn, fe fydd y fridge-freezer yn cyrraedd bore dydd Iau. Mae'r wraig yn honni fy mod i'n mynd i'w llenwi â chwrw a hufen iâ. How little she knows me.