1.11.04

Plentyn 'di gladdu


Nos Sadwrn aethon ni i'r Lyttelton Theatre i weld y ddrama Buried Child, gan Sam Shepard. Roedd yr actor Americanaidd, M. Emmet Walsh, yn chwarae rhan Dodge - patriarch teulu sy'n treulio'i amser yn eistedd ar hen soffa ac yn yfed. Mae fferm y teulu, a'r teulu ei hunan, yn dadfeilio. Mae'r ddrama yn dywyll, ond eto gyda llinellau doniol. Roedd yr actorion i gyd yn wych. Posted by Hello