4.11.04

Y BBC

Ar 29 Hydref, pan gafodd Yassir Arafat ei symud mewn i helicopter ar ddechrau ei daith i ysbyty yn Paris, fe gafodd sylwedyddion eu taro gan y ffaith fod cyn lleied o bobl oedd o gwmpas i ffarwelio â'r hen ddyn ― yn ôl y Daily Telegraph 'barely a hundred onlookers, mostly young men,' a sylwodd y Chicago Tribune fod 'the most conspicuous reaction to Arafat's dramatic departure... was the virtual silence that greeted it.'
Efallai Palesteiniaid cyffredin, ar ôl blynyddoedd o arweinyddiaeth llygredig a methiannus yn dangos eu difaterwch ynglyn a salwch Arafat.
Ar y llaw arall, mae'n ddiddorol nodi ymateb personol gohebydd y BBC yn y Lan Orllewinol, Barbara Plett: "Foreign journalists seemed much more excited about Mr Arafat's fate than anyone in Ramallah... [W]here were the people, I wondered, the mass demonstrations of solidarity, the frantic expressions of concern?"
A wedyn: "when the helicopter carrying the frail old man rose above his ruined compound, I started to cry... without warning." [darllenwch neu wrandewch i'r adroddiad - 5:30 tu mewn i'r sioe].
Mae datguddiad Plett o'i chysylltiad emosiynol gyda Yassir Arafat yn gydnabyddiaeth glir o'i safbwynt yn y gwrthdaro rhwng Israel a'r Palesteiniaid. Mae ei geiriau yn atgoffa rhywun o eiriau Fayad Abu Shamala, gohebydd y BBC yn Gaza, a gyhoeddodd mewn rali Hamas ym Mai 2001: 'Journalists and media organizations [are] waging the campaign shoulder-to-shoulder together with the Palestinian people.'
Beth mae hynny yn dweud am y BBC pan maen nhw'n cyflogi gohebion gyda cysylltiadau emosiynol neu ideolegol i un ochr o'r gwrthdaro?
Rwy wedi anfon ebost at Ombwdsman y BBC, Malcolm Balen: malcolm.balen@bbc.co.uk