22.11.04

Replacement Theology

Digwydd dod ar draws llyfr gyda'r teitl The Next Christendom: The Coming of Global Christianity, gan Philip Jenkins, sy'n Athro yn Hanes ac Astudiau Crefyddol yn Pennsylvania State University. Yn y llyfr mae Jenkins yn trafod dyfodol Cristnogaeth yn y byd, ac hefyd yn sôn am berthynas Cristnogion gydag Iddewon a Mwslemiaid. Ers yr Ail Ryfel Byd mae mwyafrif o Gristnogion wedi troi eu cefnau at "Replacement Theology" - hynny yw, y syniad bod Cristnogaeth wedi cymryd lle Iddewiaeth, ac fod yr Eglwys yw'r "Israel newydd" - ac wedi bod yn weithgar iawn i wella'r perthynas gydag Iddewon. Mae Jenkins yn dweud bod y rhesymau am hynny yw'r euogrwydd yn deillio o'r Holocôst, a'r ffaith bod Cristnogion wedi methu gweithredu i stopio erchyllterau'r Natsiaid ac i achub Iddewon.
Ond nawr mae eglwyswyr a diwinyddwyr wedi bod yn gwneud y mathemateg: "Put in the crudest numerical terms, there are rather fewer than 20 million Jews in the world, compared to a billion Muslims ... By 2050, Muslims worldwide should outnumber Jews by over a hundred to one."
Mae "Replacement Theology" yn dod yn ffasiynol unwaith eto, ac mae'r perthynas rhwng Cristnogion ac Iddewon yn dechrau dangos y straen. Wrth gwrs, mae'n beth da bod Cristnogion yn trafod gyda Mwslemiaid i wella'r perthynas rhyngddynt - ond fe ddylen nhw gofio bod 'na fath o "Replacement Theology" yn Islam hefyd.