16.11.04

NHS

Ddoe roedd fy ngwraig, Viorica, i fod fynd mewn i'r ysbyty am lawdriniaeth i helpu'r circulation yn ei dwylo. Dros y cwpl o flynyddoedd diwetha' mae hi wedi bod mewn poen yn y gaea'. Ar ôl aros ger y ffôn drwy'r dydd, dyma'r ysbyty yn galw i ddweud nad oedd gwely gwag ar gael - a chafodd y llawdriniaeth ei gohirio. Wrth gwrs mae lot o bobl yn cael profiadau gwaeth na hynny ac yn gorfod byw mewn poen mawr gan fod ei operations wedi cael ei canslo. Ond roedd yn siom iddi orfod aros yn ofer fel hyn.
Darllen heddiw am anthem newydd gan Billy Bragg - fersiwn newydd o "I vow to thee my country". Yn y papur newydd roedd yr hen eiriau ar ochr fersiwn BB. Mae yr hen un, gyda geiriau gan Cecil Spring-Rice, yn gân teimladwy sy'n trio rhoi aberthau milwyr y Rhyfel Byd Cyntaf mewn cyd-destun crefyddol. Mae'n swnio'n hen-ffasiwn erbyn hyn - sôn am aberth dros eich gwlad ac ati. Ond mae fersiwn Bragg yn swnio yr un mor hen-ffasiwn, ac yn drymach hefyd. Mae sosialaeth wedi hen farw - diolch byth.