29.11.04

Chava Alberstein

Chava
Nos Sadwrn fe aethon ni i gyngerdd Chava Alberstein, cantores enwog o Israel yn y Barbican. Hi yw un o fy hoff gantoresau o Israel, ac mae'n canu yn Yidish (efallai hi yw'r unig un o sêr Israel i ganu yn Yidish) yn ogystal â Hebraeg. Roedd hi'n canu hen ffefrynnau a chaneuon o'i CD newydd End of the Holiday. Mae'r albwm newydd yn grêt, ac mae cyfweliad gyda hi yn y rhifyn newydd o Songlines.