5.10.05

1948

Ar wefan "The Emperor's Clothes" mae yna erthygl a dogfennau diddorol yn ymwneud a rôl Prydain yn y cyfnod cyn sefydliad Israel yn 1948. Fel cyn-gomiwnydd (ac yn un sy'n digon hen i gofio pan oedd Israel a'r kibbutzim yn arwrol i'r chwith) mae'r ffaith bod y chwith wedi troi yn erbyn Israel i fod o blaid ffwndamentalwyr Islamaidd wedi bod yn benbleth i mi dros y blynyddoedd diwetha'. Rhan o hyn yw'r "ail-ddehongliad" o hanes sy'n portreadu Israel fel creadur y Gorllewin imperialaidd. Mae'r dogfennau yn dangos bod Prydain wedi ysgogi'r Arabiaid yn erbyn yr Iddewon - roedd yr awdurdodau Prydeinig ym Mhalesteina yn gwybod bod cyn-aelodau o'r Waffen SS (Mwslemiaid o Fosnia, oedd yn aeolodau o'r Handzar Division o'r SS) yn teithio i gymryd rhan yn yr ymgyrch yn erbyn yr Iddewon. "According to a French intelligence document published by The Nation seven months later, the British sent thousands of Nazi prisoners of war, including top war criminals, to assist the Arab attack. This was after the Arab invasion."

Pam oedd y Brits yn gwneud hyn? Gan eu bod nhw'n credu bod y gweddillion oedd wedi goroesi'r Holocôst yn debyg i sefydlu Comiwnyddiaeth yn yr ardal. Dyma'r Times, 8 May 1948: