5.8.05

Tristwch

Sefyllfa sensitif iawn yn Israel gyda'r "disengagement" o Gaza yn dod yn nes. Mae pobl o'r De eithafol wedi bod yn ymgyrchu yn erbyn y proses, ac roedd rhai yn tybio byse eithafwyr yn gwneud rhywbeth i drio danseilio'r llywodraeth. Ac nawr mae milwr (oedd wedi mynd AWOL) wedi ymosod ar fws i'r dre Sheffaram yn Galilea. Fe laddodd pedwar cyn cael ei lynchio gan y trigolion - roedd e'n aelod o fudiad De eithafol "Kach" mae'n debyg.

Pan oeddwn i'n gweithio ym Mhrifysgol Haifa yn y 1980au, roedd nifer fawr o'r myfyrwyr yn dod o Sheffaram, ac ryw'n teimlo tristwch mawr bod y terrorist yma wedi cyflawni y fath ymosodiad anwaraidd.

Llun o'r bws yn Sheffaram yn Israel, ar ôl yr ymosodiad. Posted by Picasa